Mae Gŵyl Ryngwladol Abertawe ar fin ddechrau a bydd dros 30 o ddigwyddiadau amrywiol yn ystod 16 diwrnod mewn lleoliadau o amgylch y ddinas. Gyda cherddoriaeth, dawns, bale, comedi, drama, ffilm, sgyrsiau, celf weledol a digwyddiadau i’r teulu, mae rhywbeth at ddant pawb.
Bydd sawl uchafbwynt yn ystod y penwythnos agoriadol, gan gynnwys y cerddor enwog o Abertawe, Mal Pope, a fydd yn lansio’r Ŵyl yn Volcano HQ yn y Stryd Fawr ddydd Gwener 30 Medi gyda Later with Mal – arddangosfa o dalent leol. Yna, dilynnir gan “baroque and roll” – gan gynnwys Y Pedwar Tymor enwog gan Vivaldi – La Serenissima yn Neuadd Brangwyn ar 1 Hydref.
Gallwch fwynhau digwyddiadau yn ystod y diwrnod yn Neuadd Fawr Campws y Bae Prifysgol Abertawe, gan gynnwys datganiad gan y pianydd Clare Hammond (a chwaraeodd ran Maggie Smith ifanc yn y ffilm The Lady in the Van), a fydd yn perfformio gyda’r oböydd James Turnbull am 11.30am ddydd Sul 9 Hydref.
Bydd y digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yn Neuadd Brangwyn ar 7 Hydref yn cynnwys Cyngerdd i Deuluoedd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC – perffaith ar gyfer unrhyw un 7 oed neu’n hŷn – sy’n cyfuno ffefrynnau clasurol â chaneuon poblogaidd o ffilmiau fel Star Wars Main Theme. Mae’r gerddorfa yn dychwelyd ar 8 Hydref ar gyfer cyngerdd i goffáu Aberfan, gan fod 2016 yn nodi hanner canmlwyddiant ers y digwyddiad trychinebus. Bydd y noson yn cynnwys gwaith newydd, The Shortest Day, sydd wedi’i gomisiynu gan yr Ŵyl, Cyfeillion yr Ŵyl a BBC Radio 3 ac wedi’i ysgrifennu gan gyfansoddwr ifanc talentog o Gymru, Joseph Davies, gyda thestunau gan Archesgob blaenorol Caergaint, Dr Rowan Williams.
Os ydych am wisgo eich esgidiau dawnsio, dewch i Swing Night yn Neuadd Brangwyn ar 14 Hydref pan fydd Michael Roach a’r band Buck Clayton Legacy yn llenwi’r Neuadd â chlasuron jazz. Mae’r digwyddiad yn cefnogi Gofal Canser Maggie.
Bydd y digwyddiadau yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin yn cynnwys The Sorcerer’s Apprentice ar 1 Hydref, sioe hudol sy’n cyfuno cerddoriaeth, pypedwaith ac adrodd straeon ar gyfer plant 3-7 oed, yn ogystal ag ymgyfuniad o gerddoriaeth wreiddiau Iwerddon ac America o We Banjo 3 ar 9 Hydref.
Comedi a geir yn Theatr y Grand ar 13 Hydref, gyda chomedi llwyfan gan gomedïwr ardderchog Cymraeg, Elis James, a’i bartner ar Radio X, John Robins. Ddydd Sadwrn 15, gallwch fwynhau Romeo a Juliet yng nghynhyrchiad arobryn Bale Cymru sy’n nodi 400 mlynedd ers marwolaeth Shakespeare.
Mae’r Ŵyl yn gorffen ar nodyn bywiog gyda un o gerddorfeydd mwyaf mawreddog Rwsia, Cerddorfa Symffoni Tchaikovsky, sy’n perfformio rhaglen o dri gwaith gan Tchaikovsky ei hun yn Neuadd Brangwyn ar 15 Hydref.
Gallwch hefyd fwynhau arddangosfeydd celf weledol yn Oriel Mission, yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin a Galerie Simpson yn ogystal â mynd i glywed sgyrsiau amser cinio am ddim sy’n amrywio o bynciau fel jazz yn Abertawe i’r berthynas rhwng celfyddydau, cymdeithas ac iechyd da.
Dyma ragflas yn unig o’r hyn sydd ar gynnig yn ystod Gŵyl Ryngwladol Abertawe – i weld rhestr lawn y digwyddiadau ac i archebu tocynnau ar-lein, cymerwch gipolwg ar y wefan:
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English