![](http://www.enjoyswanseabay.com/wp-content/uploads/2019/08/Fringe-2019-cover-Welsh-1024x341.jpg)
Bydd yr Archarwyr yn Sgwâr y Castell a CGG y BBC: Rhestr Chwarae Glasurol yn dychwelyd i Ŵyl Ymylol Abertawe rhwng 3 a 6 Hydref!
Bydd Gŵyl Ymylol Abertawe 2019 yn dychwelyd rhwng 3 a 6 Hydref a bydd yn fwy ac yn well nag erioed! Eleni mae’r ŵyl yn cynnwys 3 digwyddiad, sef Gŵyl Ymylol Abertawe 2019 rhwng 3 a 6 Hydref, Archarwyr yn Sgwâr y Castell ar 5 Hydref a’r Rhestr Chwarae Glasurol Cerddorfa Genedlaethol Gymraeg y BBC ar 5 Hydref yn Neuadd Brangwyn. Darllenwch ymlaen i ddarganfod rhagor.
Gwyl Ymylol Abertawe 2019
3 Hydref, Y Brangwyn
![Swansea Fringe Launch Party](http://www.enjoyswanseabay.com/wp-content/uploads/2019/08/Fringe.jpg)
Pleser enfawr yw cyflwyno lansiad Gwyl Ymylol Abertawe eleni o’r Neuadd Brangwyn hanesyddol. Rydym wedi gwrando arnoch chi, ac rydym wedi dod â ffefrynnau’r ŵyl ymylol gyntaf, sef Afro Cluster, yn ôl i agor yr ŵyl eleni mewn steil.
Gŵyl Ymylol Abertawe
3 – 6 Hydref, Lleoliadau amrywiol
Gyda thros 200 o artistiaid i’w gweld mewn dros 20 o leoliadau, cewch brofi’r digwyddiadau mwyaf cyffrous, deinamig a bywiog fydd yn siŵr o’ch diddanu dros 4 diwrnod. Felly, dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau, a rhannwch brofiad unigryw, arbennig a fydd yn rhywbeth i’w drysori am flynyddoedd lawer.
Archarwyr yn Sgwâr y Castell
5 Hydref, Sgwâr y Castell
![Avengers for Supeheroes in Castle Square Swansea](http://www.enjoyswanseabay.com/wp-content/uploads/2019/08/Avengers-Enjoy-1024x341.jpg)
Mae Gŵyl Ymylol Abertawe yn dychwelyd fis Hydref eleni, ac mae Cyngor Abertawe wedi trefnu darllediad arbennig am ddim o’r ffilm anhygoel, Avengers: Endgame ar y Sgrîn Fawr, Sgwâr y Castell, a llawer mwy ar gyfer y teulu cyfan!
CGG y BBC: Rhestr Chwarae Glasurol: Yn fyw
5 Hydref, Y Brangwyn
![BBC NOW Classical Playlist Live](http://www.enjoyswanseabay.com/wp-content/uploads/2019/08/Classical-Playlist-1200-x-400-1024x341.jpg)
Wedi’i gyflwyno gan Gerddorfa a chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, mae’r digwyddiad yn cynnig ffordd amgen o fwynhau cerddoriaeth glasurol, gyda’r nod o gynnig profiad hygyrch, hollgynhwysol sy’n arddangos amrywiaeth eang o gerddoriaeth mewn amgylchedd gwrando mwy hamddenol.