Er mwyn dathlu bod y Penwythnos Mwyaf gan BBC Music yn dod i bedair dinas mewn pedair cenedl dros yr haf, mae’r BBC yn cynnal Gŵyl Ymylol 10 niwrnod ar draws y DU a fydd yn dechrau ddydd Gwener 18 Mai 2018. Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi digwyddiadau ymylol a gynhyrchir gan y BBC yn y pedair dinas, ond yn ogystal â hyn hoffem annog cynifer o leoliadau lleol ac annibynnol i drefnu a chydlynu eu digwyddiadau cerddoriaeth fyw eu hunain o dan ymbarél Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf.
Gall unrhyw leoliad cerddoriaeth, hyrwyddwr neu drefnydd yn y DU gymryd rhan yng Ngŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf, a dylid adlewyrchu’r amrywiaeth o genres sydd i’w cael yn y DU; o indie i roc, o DJs i’r gair llafar, yn dathlu ac yn rhannu ein cariad at gerddoriaeth fyw. Bydd pob digwyddiad yn gallu defnyddio brand Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf a bydd yn cael ei restru fel digwyddiad swyddogol Gŵyl Ymylol y BBC ar dudalennau’r Ŵyl Ymylol gyda Skiddle, ein cyflenwr tocynnau a/neu hysbysebion. Byddwn yn defnyddio ein rhaglenni yn y BBC ar radio cenedlaethol a lleol i roi gwybod i’n cynulleidfaoedd am Ŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf, gan ddarparu rhaglen gynhwysol o gerddoriaeth fyw ar draws y DU.
Meini prawf
Er mwyn gwneud cais, rhaid i’r lleoliad, hyrwyddwr neu drefnydd:
- Fod yn y Deyrnas Unedig
- Meddu ar y trwyddedau ac yswiriant perthnasol i gynnal y digwyddiad
- Trefnu digwyddiadau rhwng 18 a 28 Mai 2018
- Cofrestru, a pharhau i gydymffurfio â’r Amodau a Thelerau sy’n berthnasol i Bartneriaid Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf.
Sut i gymryd rhan
- Er mwyn i leoliadau a hyrwyddwyr gymryd rhan mae angen darparu peth gwybodaeth sylfaenol a chofrestru ar gyfer ein Hamodau a Thelerau.
- Ar ôl i’r wybodaeth hon gael ei chymeradwyo gan y BBC, byddwch yn derbyn e-bost a fydd yn esbonio sut i restru eich digwyddiad ar ein tudalennau Gŵyl Ymylol gyda Skiddle, ein cyflenwr tocynnau a/neu hysbysebion, am ddim. Byddwch hefyd yn derbyn asedau digidol perthnasol ar gyfer Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf i’w defnyddio ar daflenni a phosteri.
- Gellir cofrestru digwyddiad hyd at 23:59 nos Wener 4 Mai 2018.
- Bydd y digwyddiadau ymylol ar Skiddle, a chynlluniau ehangach y BBC ar gyfer yr Ŵyl Ymylol yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener 16 Mawrth 2018.
- Gofynnwn i holl bartneriaid yr Ŵyl Ymylol gynnal gwerthoedd cryf y BBC ynghylch iechyd a diogelwch, lles y gynulleidfa, tocynnau a threfniad cyffredinol y digwyddiad.
Cliciwch yma i gofrestru fel Partner Ymylol y Penwythnos Mwyaf
Gallwch ddarllen Amodau a Thelerau gweithgaredd partneriaid Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf yma
Cliciwch yma i weld Cwestiynau Cyffredin