Ac, mae’n rhaid i ni gyfaddef, ar unrhyw ddiwrnod arall hefyd. Yng ngeiriau’r gân wych gan John Miles, byddai’n amhosib byw heb gerddoriaeth. Yn ffodus, mae pedair cyngerdd arbennig a gynhelir ym Mharc Singleton i ni edrych ymlaen atynt, gan gynnwys:
- Stereophonics, dydd Sadwrn 13 Gorffennaf
- Pete Tong a’r Heritage Orchestra, dydd Sadwrn 27 Gorffennaf
- Jess Glynne, dydd Sadwrn 28 Gorffennaf
- Proms yn y Parc y BBC, dydd Sadwrn 14 Medi
Rydym i gyd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth drwy gydol bob dydd, boed hynny pan fyddwn ar un o draethau trawiadol Bae Abertawe neu’n teithio. Rydym wedi llunio rhestr chwarae o’n hoff gerddoriaeth fywiog, sef y caneuon sy’n llawn gwefrau gwych yn ein tyb ni.
Beth ydych chi’n ei feddwl am ein rhestr chwarae ‘Gwefrau Gwych’? Oes unrhyw beth ar goll? Pa ganeuon fyddai ar eich rhestr chi? Rhowch wybod i ni ar Facebook neu Twitter. #GwefrauGwych #BaeAbertawe