Gyda Gemau Paralympaidd 2016 ar fin dechrau yn Rio de Janeiro, mae preswylwyr Abertawe ag anabledd yn cael eu hatgoffa bod digon o gyfleoedd chwaraeon ac ymarfer corff ar gael iddynt ar eu stepen ddrws.
Mae canolfannau hamdden Abertawe Actif Cyngor Abertawe ym Mhenlan, Penyrheol, Treforys, Llandeilo Ferwallt a Chefn Hengoed ymysg y cyfleusterau cwbl hygyrch ar draws y ddinas.
Mae mynediad graddol a hwylus i’r pwll nofio a mynediad i gadeiriau olwyn drwy ramp ar gael yng Nghanolfan Hamdden Penlan, gyda theclyn codi ar gael ym Mhenyrheol. Mae llawer o gyfarpar achrededig Menter Ffitrwydd Gynhwysol hefyd ar gael ym mhob stiwdio ffitrwydd ym mhob canolfan, ynghyd â mannau parcio a chyfleusterau newid i’r anabl.
Meddai’r Cyng. Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddinas Iach a Lles, “Heb amheuaeth, bydd y Gemau Paralympaidd yn ysbrydoli llawer o bobl ag anableddau ar draws y DU a’r tu hwnt i roi cynnig ar chwaraeon, felly mae’n dda bod gennym rwydwaith o gyfleusterau a chlybiau ar gael yma yn Abertawe i ddiwallu eu hanghenion.
“O Ellie Simmonds a Chloe Davies i Paul Karabardak, mae gan Abertawe hanes balch o helpu pobl ag anableddau i gystadlu ar lefel elít, ond yn ogystal â chyfleusterau a hyfforddi i ddatblygu’r i’r lefel uchaf o chwaraeon a chystadlu, mae digon ar gael i ddiwallu anghenion pobl ag anableddau o bob oedran a lefel sgiliau sydd am roi cynnig ar gyfleoedd ymarfer corff neu roi cynnig ar chwaraeon newydd am ychydig o hwyl.
“Yn ogystal â manteision corfforol, gall fod gan chwaraeon ac ymarfer corff fanteision meddyliol enfawr hefyd, gan helpu i ehangu cylchoedd cymdeithasol pobl a rhoi hwb i’w hyder a’u hunan-barch.
Mae clybiau ar gyfer pêl-droed, rygbi, nofio, beicio, pêl-fasged, tenis, tenis bwrdd, jiwdo, saethyddiaeth, syrffio, boccia a bowls ymysg y rhai sydd ar gael yn Abertawe i bobl ag anableddau.
Yn 2012, bu’r ddinas yn ganolfan i dimau Seland Newydd a Mecsico cyn y Gemau Paralympaidd yn Llundain. Bu Abertawe hefyd yn cynnal Pencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC yn 2014, sef y ddinas gyntaf yn y DU i wneud hynny.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/abertaweactif neu ffoniwch 01792 635460 i gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd chwaraeon i bobl ag anableddau yn Abertawe.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English