Mae gwyliau’r Pasg bron â dod i ben, a’r penwythnos hwn yw’r amser i redeg i’r dre a phrynu deunydd ysgrifennu i lenwi’r casys pensiliau am y tro olaf eleni! Ond wrth i chi ruthro i ddod o hyd i wisgoedd ysgol ar y funud olaf, beth am alw heibio Sgwâr y Castell ar gyfer digwyddiad na welsoch erioed o’r blaen!
Mae’r Sioe Deithiol Aer Glân yn ddigwyddiad AM DDIM sy’n cynnig rhywbeth i bawb – opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy cost isel i dad, Titan y robot i’r plant a cheir moethus i mam…
Ar agor o 10am tan 4pm, bydd y Sioe Deithiol Aer Glân yn arddangos amrywiaeth eang o gerbydau gan gyflenwyr megis Nissan, Mitsubishi, Kia, BMW a Tesla.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys BMW i3, Tesla model S, Otlander PHEV gan Mitsubishi ac A3 Sportback e-tron gan Audi ac enwi ond ychydig. Bydd cyfle hefyd i’r plant eistedd mewn hen Sinclair C5, gan ddangos sut mae technoleg wedi datblygu dros y 32 flynedd diwethaf!
Bydd ceir hefyd sy’n cael eu PWERU GAN HYDROGEN, gan gynnwys y Toyota Mirai a’r Riversimple Rasa, sy’n cwblhau’r cylch bywyd technolegol. Darganfuwyd yr wyddoniaeth y tu ôl i’r peiriannau hyn gan Sir William Grove, ffisegydd a aned yn Abertawe, ac mae’r gell danwydd hydrogen bellach wedi newid o fod yn chwedl i rywbeth sy’n cynhyrchu digon o bŵer i gynnal cerbyd sy’n hollol addas ar gyfer y ffordd (mae’n anhygoel on’d yw e?!). Yn y Sioe Deithiol Aer Glân gallwch hyd yn oed eistedd ar y Beic Hydrogen a chynhyrchu bach o danwydd hydrogen eich hunain!
Peidiwch â theimlo cywilydd!
Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i chi ofyn y cwestiynau ‘twp’ am gerbydau carbon isel – Sut maent yn gweithio? Fydda i’n mynd yn brin o bŵer ar fy ffordd i’r gwaith? Oes angen gwefrwr arbennig arna i? Faint maent yn costio mewn gwirionedd? – i’r bobl sy’n gwybod y mwyaf amdanynt, y gwneuthurwyr eu hunain!
Ond os ydych am ddysgu neu sgwrsio am fwy na thrafnidiaeth yn unig, peidiwch â phoeni! Bydd stondinau gwybodaeth gan lu o sefydliadau a busnesau lleol sy’n arbenigo mewn llygredd aer, cynaladwyedd, ynni adnewyddadwy a sut i greu Abertawe wyrddach i ni a’n dyfodol.
Mae’r Sioe Deithiol Aer Glân yn ddigwyddiad blaengar ac arloesol sy’n siŵr o gynnig diwrnod llawn technoleg, ceir, a dawnsio gwych (gan Titan hynny yw, nid ni!)
Gwelwn ni chi ar y penwythnos!
Byddwn ni ar gael ar y diwrnod er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd. Gallwch rannu’ch lluniau a’ch fideos â ni ar gyfryngau cymdeithasol #SioeDeithiolAerGlan
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English