Dwi’n mwynhau hyfforddi, nofio a threulio amser gyda theulu a ffrindiau. Dwi’n hyfforddwr ffitrwydd i Abertawe Actif. Dwi’n gweithio yng Nghanolfan Hamdden Penlan yn Abertawe. |
Zumba; dawnsio i gerddoriaeth wych, gyda phobl wych wrth losgi calorïau. Adlamu, mae’n ddosbarth ar drampolinau bach. Mae’n ddosbarth dwysedd uchel. trawiad isel – yn llawer o hwyl ac yn llosgi llawer o galorïau! Dwi hefyd yn addysgu beicio mewn grŵp ar gyfer cynyddu ffitrwydd a llosgi calorïau.Fel hyfforddwr ffitrwydd, pa ddosbarthiadau ydych chi’n eu haddysgu?
Pa ddosbarthiadau sy’n boblogaidd ar hyn o bryd?
Pe bai’n rhaid i mi ddewis un, byddai’n rhaid i mi ddweud cylchedu.
Beth wnaeth i chi benderfynu bod yn hyfforddwr ffitrwydd?
Dwi bob amser wedi mwynhau ymarfer corff. Roedd fy nhad yn arfer defnyddio campfeydd bob dydd ac roedd e’n hoff iawn o hyfforddiant pwysau. Daeth pwysigrwydd gofalu amdanoch eich hunan ganddo fe. Roeddwn i’n arfer gwneud dymbelau yn y tŷ a dawnsio ychydig ar gyfer cardio (yn chwerthin). Dechreuais i weithio ym maes hamdden fel achubwr bywyd ac roeddwn i’n arfer mynd i’r dosbarthiadau aerobeg. Dyna pryd penderfynais i roeddwn i eisiau bod yn hyfforddwr ‘ymarfer corff i gerddoriaeth’.
Ers faint ydych chi wedi bod yn gwneud hyn a pham rydych chi’n dwlu arno fe?
Dwi wedi bod yn hyfforddwr dosbarth ers 12 mlynedd ac yn hyfforddwr campfa/ffitrwydd ers 9 mlynedd. Mae’n wobrwyol iawn gwybod y gallwch helpu pobl i deimlo’n well amdanyn nhw eu hunain.
Beth yw’r dosbarth mwyaf corfforol heriol rydych chi’n ei addysgu?
Adlamu, mae’n fy ngwneud yn whys stecs a dwi’n dwlu arno fe!
Pryd ydych chi’n gweld bod pobl wedi’u hysgogi fwyaf?
Ar ôl y Nadolig a phan maen nhw ar fin mynd ar wyliau’r haf.
Beth yw’r peth doniolaf a mwyaf gwobrwyol sydd erioed wedi digwydd yn y gwaith?
Doniol? Cwympo drosodd mewn dosbarth ac, ar achlysur arall, holltodd fy nhrowsus yn y cefn. Gwobrwyol – gweld cwsmeriaid yn mwynhau fy nosbarthiadau.
Ydych chi’n rhoi cyngor yn y dosbarth?
Pwysig iawn! Allwch chi ddim allhyfforddi deiet gwael!
Sut rydych chi’n cynnal ysgogiad grŵp mewn dosbarth?
Rhoi 110%, gwenu a chanu i’r gerddoriaeth, maen nhw’n hoffi hynny.
Pan fydd pobl yn ymuno â’ch dosbarthiadau, pa fuddion fyddan nhw’n gweld?
Ffitrwydd cardiofasgwlaidd uwch, gwydnwch cyhyrol a cholli braster.
Pa ddosbarthiadau fyddech chi’n argymell ar gyfer colli pwysau a ffyrfhau?
Y rhan fwyaf ohonyn nhw!
Beth yw’ch nodau ffitrwydd a’ch cyflawniadau personol?
Stumog wedi’i ffyrfhau.
All unrhyw un ddod a chyflawni pecyn chwech/8 perffaith neu ydy hi’n anodd iawn?
Mae cael pecyn 6 yn waith eithriadol o galed ac yn gofyn am lawer o ymroddiad, ysgogiad a hunanddisgyblaeth. Fydd e ddim yn digwydd dros nos!
Pa 3 gair sy’n crynhoi’ch dosbarthiadau?
Difyr, egnïol ac ysgogol.
Oes gennych chi awgrymiadau maeth ac iechyd y gallwch eu rhannu?
Dylai pawb anelu am ddeiet cytbwys. Efallai na fydd deietau mympwyol yn rhoi’r cydbwysedd maetholion angenrheidiol i chi. Hefyd digon o ddŵr – peidiwch â chamgymryd syched am awydd bwyd.
Beth yw’ch neges i bobl sy’n ystyried ymuno?
Os ydyn nhw eisoes yn meddwl amdano fe, mae’n rhaid eu bod nhw eisiau newid. Mae’n rhaid iddyn nhw gymryd y cam hwnnw a byddwn ni’n barod i helpu.
Beth yw’ch hoff le i hyfforddi yn yr awyr agored yn Abertawe?
Os dwi’n cael dydd Sul bant gyda’m partner, dwi’n hoffi mynd am dro o gwmpas Gŵyr. Mae’n brydferth. Dwi hefyd yn hoffi ymweld â Mynydd Cilfái. Os nad ydych erioed wedi bod lan yno, dylech chi wneud! Yn anffodus, heblaw am hynny, dwi’n hyfforddi dan do fel arfer.
Beth mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n dod i ddosbarth yn chwilio amdano?
Colli pwysau yw’r mwyaf poblogaidd.
Beth yw’ch nodau personol ar hyn o bryd?
Dwi’n trio gwneud tua hanner awr y dydd ar ddwysedd cymedrol, fel arfer yn cerdded/ar y croeshyfforddwr neu ar y beic a rhai pwysau ysgafn.
Cwestiwn gwirion, ond pam ddylai pobl fyw’n iach?
I’ch helpu i fyw bywyd hwy ac iachach!
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English