Bydd cantores ifanc o Abertawe yn arbennig ei llais yn fuan mewn digwyddiad mawr a gynhelir yng nghanol y ddinas.
Mae Nataya Bree, disgybl 14 oed o Ysgol Gyfun yr Esgob Vaughan sy’n byw yn Nhreboeth ymhlith y perfformwyr a fydd yn mynd ar y llwyfan yn ystod digwyddiad “Our Abertawe: Dathlu Abertawe gyda’n Gilydd” ddydd Sul 4 Mawrth.
Ar y cyd Gŵyl AberDewi a fydd yn dychwelyd i’r ddinas, gobeithir y bydd y digwyddiad a drefnir gan Gyngor Abertawe yn creu cysylltiadau cadarnhaol ac yn meithrin perthnasoedd cryfach rhwng poblogaeth gynyddol, amrywiol ac aml-ddiwylliannol Abertawe.
Mae mwy na 2,200 o bobl wedi tanysgrifio i sianel YouTube Nataya. Bydd hi’n canu yn Sgwâr y Castell ganol dydd, 3pm a 5pm.
Bydd y digwyddiad, a fydd yn para o 11am tan 6pm, hefyd yn cynnwys cerddoriaeth, bwyd, dawns a gweithdai o Abertawe, Cymru a phedwar ban byd.
Mae’r digwyddiad hefyd yn cynnwys gorymdaith AberDewi drwy ganol y ddinas, yn ogystal â chyfle i gyd-ganu Calon Lân a’r anthem genedlaethol. Bydd cerddorion stryd a pherfformiadau gan nifer o fandiau Cymreig a chorau hefyd.
Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Yn ogystal â dathlu naws ryngwladol Abertawe, bydd y digwyddiad hefyd yn hyrwyddo bywyd modern Cymreig yn Abertawe ac yng Nghymru, felly mae’n wych ein bod ni’n gallu rhoi llwyfan i bobl fel Nataya ddangos eu doniau.
“Mae gan gymunedau Abertawe lawer yn gyffredin, gan gynnwys ein cariad at y ddinas, ond rydym hefyd yn falch o gofleidio gwahaniaethau’n gilydd. Gobeithiwn y bydd y digwyddiad hwn yn dod ag Abertawe yn agosach fyth drwy gyfuno gweithgareddau sy’n dathlu ein treftadaeth Gymreig yn ogystal â’n cymunedau 21ain ganrif, aml-ddiwylliannol.
“Adlewyrchwyd y thema o gydberthynas wrth drefnu’r digwyddiad hwn hefyd, gyda nifer mawr o sefydliadau yn cymryd rhan, gan gynnwys y cyngor, Cymunedau’n Gyntaf, Menter Iaith Abertawe, ein prifysgolion a phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.”
Bydd stondinau a gweithgareddau yn rhan o’r digwyddiad hefyd, yn ogystal ag arddangosfa i ddathlu hanes diwylliannol ac ethnig amrywiol Abertawe.
Mae ysgolion lleol yn cymryd rhan yn y diwrnod hefyd. Mae sawl ysgol gynradd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth draig a bydd yr enillydd ar flaen yr orymdaith. Bydd disgyblion o Ysgol Gyfun Gŵyr, Ysgol Gyfun Bryn Tawe ac Ysgol Gyfun yr Esgob Vaughan yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth ar ffurff “The Apprentice”, sy’n cynnwys codi arian ar y diwrnod ar gyfer elusennau i bobl ddigartref.
Mae myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn helpu i greu fideo ‘Fy Abertawe’ i’w ddarlledu yn y digwyddiad ar Sgrîn Fawr Sgwâr y Castell, sy’n cynnwys myfyrwyr a phreswylwyr yn rhannu eu meddyliau eu hunain am Abertawe a’r hyn y mae’r ddinas yn ei olygu iddynt hwy.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/OurAbertawe am fwy o wybodaeth.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English