Bydd mymi Eifftaidd yn dod yn ôl yn fyw yn Amgueddfa Abertawe cyn bo hir os daw stori Hollywood yn wir.
Bydd y mymi, o’r enw Hor, yno pan gaiff y tair ffilm Night at the Museum eu dangos yn atyniad hanesyddol Heol Victoria nos Wener 15 Mai.
Dengys y ffilmiau Night at the Museum i ddathlu’r digwyddiadau Amgueddfeydd Liw Nos ledled y DU nos Iau 14 a nos Wener 15 Mai pan fydd llawer o’r amgueddfeydd ar agor yn hwyr. Bydd Amgueddfa Abertawe ar agor tan 9pm ar y ddwy noson. Hor, a oedd yn offeiriad dilladu ac yn ysgrifennydd i’r duw Atum, yw un o arteffactau hynaf a mwyaf gwerthfawr Amgueddfa Abertawe. Yn arfer dyddiol y deml, ei ddyletswydd ef oedd newid y dillad ar gerflun sanctaidd y duw. Roedd yn byw yn Akhmim yn yr Aifft Uchaf rhwng 250 a 200 CC yn ystod y deyrnas Ptolemaidd ac fe’i henwyd ar ôl y duw Horus.
Rhoddwyd y mwmi i Amgueddfa Abertawe ym 1888 gan y Maeslywydd yr Arglwydd Francis Wallace Grenfell a anwyd yn ardal St Thomas yn Abertawe ym 1841. Yn y ffilmiau, gyda’r seren Ben Stiller, mae pob math o wrthrychau’n dod yn fyw mewn nifer o amgueddfeydd yn America, gan gynnwys y Smithsonian yn Washington DC.
Dengys y ffilmiau Night of the Museum yn ôl eu trefn am 3.30pm, 5.30pm a 7.30pm. Anogir pawb sy’n dod i wisgo gwisgoedd hanesyddol. Ewch i wefan Amgueddfa Abertawe am fwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 653763.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English