Dewch i gadw’n heini gydag Abertawe Actif ac ymunwch â ni yng Nghanolfan Hamdden Treforys am ein noson agored am ddim nos Fercher 18 Mai, rhwng 3.30pm a 7.30pm
Cewch wiriadau iechyd, cyngor ar faeth ac arddangosiadau coginio AM DDIM a phrofi’r hyn sydd gan Ganolfan Hamdden Treforys i’w gynnig gyda sawl dosbarth rhagflas AM DDIM – o bwysau tegell ac ioga i oedolion i gymnasteg, bownsio a chwarae meddal i blant.
Gallwch hefyd fwynhau taith o amgylch y ganolfan a sesiwn gyflwyno AM DDIM yn y gampfa – ar gael ar y diwrnod neu gallwch gadw lle ymlaen llaw.
Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael felly os ydych am gadw lle yn unrhyw un o’r sesiynau am ddim, ffoniwch 01792 797082.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English