Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobr Amgueddfa Addas i Deuluoedd 2017.
Dyma’r wobr fwyaf i amgueddfeydd ym Mhrydain – a’r unig un lle mae teuluoedd yn penderfynu ar yr enillydd.
Ydych chi a’ch teulu wedi mwynhau eich ymweliad ag Arddangosfa Dylan Thomas? Ydych chi’n meddwl mai ni yw’r amgueddfa fwyaf addas i deuluoedd yn yr ardal? Yna enwebwch ni – a gofynnwch i bobl eraill wneud yr un peth. Gadewch i ni roi ein hamgueddfa addas i deuluoedd ar y map cenedlaethol.
Gall unrhyw un gyflwyno enwebiad – plant, rhieni, ymwelwyr a sefydliadau sy’n ymweld.
Y peth pwysig yw bod yr amgueddfa’n mynd gam ymhellach i ddarparu profiad ardderchog sy’n addas i deuluoedd.
Mae enwebu’n hawdd – dywedwch wrth Kids in Museums pam mae Arddangosfa Dylan Thomas mor arbennig. Sut groeso a gewch chi? Beth sy’n wahanol am y cynnig i deuluoedd? Mae Kids in Museums am glywed popeth am eich ymweliadau ag Arddangosfa Dylan Thomas.
Rydym yn awgrymu eich bod chi’n cymryd cip ar Faniffesto Kids in Museums. Sut mae Arddangosfa Dylan Thomas yn cyflawni wyth pwynt y maniffesto ar greu amgueddfa addas i deuluoedd?
ENWEBWCH NAWR!
Eleni mae Kids in Museums wedi creu ffurflen ar-lein i sicrhau ei bod yn gyflym ac yn hawdd enwebu eich amgueddfa.
Fodd bynnag, os na allwch lenwi’r ffurflen ar-lein, gellir derbyn enwebiadau drwy e-bost neu’r post.
E-bostiwch award@kidsinmuseums.org.uk a nodwch pam rydych yn meddwl y dylai Arddangosfa Dylan Thomas ennill.
Post: Family Friendly Museum Award
Kids in Museums
CAN Mezzanine
7 – 14 Great Dover Street
London SE1 4YR
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw canol dydd 2 Mehefin 2017.
Ar ôl i chi enwebu Canolfan Dylan Thomas, beth am drydar y newyddion? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n sôn am @kidsinmuseums a @CDTAbertawe gan ddefnyddio’r hashnod #FFMA17.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd grŵp o wirfoddolwyr yn craffu ar y cannoedd o enwebiadau ac yn pennu rhestr fer. Cyhoeddir y rhestr fer ar 22 Mehefin 2017.
Dros yr haf, bydd teuluoedd yn ymweld â’r amgueddfeydd ar y rhestr fer yn ddienw, gan ddefnyddio Maniffesto Kids in Museums fel arweiniad wrth farnu pa mor addas iddynt i deuluoedd.
Datgelir yr enillydd mewn seremoni wobrwyo’n nes ymlaen eleni.