Mae ein tîm yng Nghanolfan Dylan Thomas newydd gwblhau trydedd wythnos cwrs ffotograffiaeth gyda Chanolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed Cymru (WCADA). Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i ffotograffiaeth ac yn eu hannog i greu delweddau gwreiddiol wedi’u hysbrydoli gan fywyd a cherddi Dylan Thomas, gan eu helpu i ddarganfod bywyd y tu hwnt i gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
Yr wythnos hon, cawsant eu hysgogi gan ddisgrifiad Dylan o Abertawe fel “…an ugly lovely town…..crawling, sprawling…by the side of a long a splendid curving shore. The sea town was my world.’’ Aeth y cyfranogwyr oll am dro yng nghanol y ddinas, gan gymryd gofal i chwilio am yr adeiladau a oedd yn bodoli yn oes Dylan a’u nodi.
Mae’n rhaid i chi edrych yn ofalus, ond mae’n syndod yr hyn a oroesodd y Blitz Tair Noson yn ystod yr Ail Ryfel Byd sy’n rhoi cefndir i A Return Journey gan Dylan.
Mae eliffantod, llewod, dreigiau a cheriwbiaid yn addurno’r hen adeiladau hyn, y mae’r rhan fwyaf ohonynt o’r 19eg ganrif. Mae adeiladart deco diddorol ar y Stryd Fawr yn y gyfres hon sy’n dangos eliffantod yn cuddio yn y gwaith addurnol gwelwlas.
Ewch ati i dynnu’ch lluniau’ch hunan a’u postio i’n grŵp Flickr www.flickr.com/groups/dylanswansea.
This post is also available in: English
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English