1. Mae amgylchiadau arbennig y digwyddiad hwn yn golygu y cewch ddod â diod alcoholig i mewn i’r arena mewn cyflenwadau rhesymol. Ni chaniateir dod â mwy nag 1 litr o win neu gwrw i mewn i’r arena gan bob person.
2. Ni chaniateir mynediad i unigolion os ydynt, ym marn y stiwardiaid, dan ddylanwad alcohol neu sylweddau anghyfreithlon.
3. Mae’r Cyngerdd yn cael ei gynnal ar safle Maes Glas ac efallai y bydd y ddaear yn anwastad. Bydd yno ffyrdd a rampiau dros dro. Cymrwch ofal wrth gerdded ar ac oddi ar y ffyrdd a’r rampiau hyn, neu wrth eu croesi mewn cadeiriau olwyn.
4. Nid yw’r tocyn hwn yn rhoi hawl i chi gael ailfynediad i’r safle unwaith y byddwch wedi gadael drwy’r gatiau.
5. Ni chaniateir mynediad i blant dan 12 oni bai fod oedolyn gyda nhw.
6. Er diogelwch, peidiwch â dod ag eitemau gwydr, barbeciwiau, canhwyllau na ffaglau sydd yn cael eu cynnau â fflam gyda chi.
7. Mae pob deiliad tocyn yn cydsynio i gael ei ffilmio a’i recordio fel aelod o’r gynulleidfa.
8. Efallai y bydd effeithiau mwg, goleuadau strôb, laserau a seiniau uchel yn cael eu defnyddio yn y digwyddiad.
9. Efallai y bydd archwiliadau diogelwch yn cael eu cynnal.
10. Ceidw’r BBC a Chyngor Abertawe yr hawl i wrthod mynediad i unrhyw un ac i ofyn i unigolion adael y safle os gwelir unrhyw ymddygiad ymosodol, peryglus, gwrthgymdeithasol neu ymddygiad annerbyniol arall.
11. Gwaherddir defnyddio unrhyw gyfarpar ffotograffig neu recordio yn yr arena.
12. Rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa gael tocyn y mae’n rhaid ei ddangos er mwyn mynd i mewn i’r arena.
13. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newid i’r manylion a hysbysebwyd ar gyfer y perfformiadau.
14. Ni ellir cyfnewid y tocyn hwn na chael ad-daliad oni bai fod y perfformiad yn cael ei ganslo. Ceir ad-daliad o fewn un mis calendr o’r dyddiad amserlennwyd y cyngerdd o’r man archebu gwreiddiol.
15. Os caiff y tocyn ei ailwerthu er mwyn elw neu fantais masnachol, bydd yn cael ei gyfri’n ddi-rym.
16. Dewch â digon o ddillad cynnes sy’n dal dŵr gyda chi, gan y gall y tywydd newid yn gyflym ac efallai y bydd hi’n oeri fin nos.
17. Dewch â chlustogau a rygiau os dymunwch
18. Mae’r digwyddiad yn amodol ar drwydded. 19. Dim cŵn heblaw am gŵn tywys.