Mae You Me At Six ar fin rhyddhau albwm stiwdio newydd a fydd yn cadarnhau ei statws fel un o’r bandiau roc pwysicaf i ddod i’r amlwg yn y DU.
Recordiwyd yr albwm, sef pedwerydd albwm y band, yn Nashville yn Stiwdios Black Bird. Fe’i cynhyrchwyd gan Jacquire King sydd wedi ennill gwobrau Grammy (Kings Of Leon, James Bay) a’i gymysgu gan Andrew Scheps (Black Sabbath, Red Hot Chilli Peppers). Bwriedir ei ryddhau ar ddechrau’r flwyddyn nesaf, mwy o newyddion i ddilyn.
I ddechrau’r daith, bydd y band yn perfformio mewn nifer o leoliadau llai yn yr hydref. Ar ôl ennill bri fel un o’r bandiau byw gorau yn y DU, gan werthu pob tocyn ar gyfer eu teithiau, a bod yn brif berfformwyr yn Arena Wembley a’r O2, dyma gyfle gwych i’w gweld yn y lleoliadau mwyaf cartrefol y maent wedi perfformio ynddynt ers blynyddoedd.
Mae You Me At Six wedi cael gyrfa hynod lwyddiannus hyd yn hyn, gan werthu dros 600,000 o albymau ar draws y byd. Mae 3 o albymau’r band wedi bod ymysg 5 uchaf y siartiau, a chyrhaeddodd yr albwm diwethaf, Cavalier Youth, rif 1 yn y DU. Mae 13 o’i senglau hefyd wedi cyrraedd y brig yn olynol ar Radio 1. Gyda rhai’n disgwyl yn eiddgar am yr albwm newydd, mae’n debyg y bydd 2017 yn flwyddyn fawr arall i’r band.
Bydd tocynnau ar werth o 24 Awst
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English