Bydd capten yr Elyrch Leon Britton, y bocsiwr Enzo Maccarinelli ac arbenigwr y grefft ymladd Brett Johns ymhlith y sêr lleol a fydd yn cario Baton y Frenhines ar gyfer Gemau Gymanwlad y Traeth Aur 2018 pan fydd yn cyrraedd Abertawe’r mis nesaf.
Abertawe fydd y lle cyntaf yng Nghymru i gyfnewid y baton pan fydd yn cyrraedd y ddinas ddydd Iau 5 Medi.
Mae’r ras gyfnewid, a ddechreuodd y llynedd, yn golygu y bydd Baton y Frenhines yn teithio i fwy na thraean o boblogaeth y byd; pellter o 230,000km mewn 388 o ddiwrnodau.
Mae Cyngor Abertawe’n cefnogi cam Abertawe yn y ras gyfnewid, a fydd yn dechrau yn Knab Rock yn y Mwmbwls am oddeutu 7.30am cyn teithio ar hyd y promenâd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am oddeutu 10.30am.
Rhennir cam Abertawe y ras gyfnewid byd eang yn 12 cam, gyda sêr eraill yn cymryd rhan gan gynnwys cyn-chwaraewr enwog yr Elyrch Alan Curtis, cyn-gapten rygbi Cymru Ryan Jones, cyn-gapten hoci Prydain Fawr Anne Ellis, a’r chwaraewr tennis Kimberly Mpukusa.
Bydd Bad Achub RNLI (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub) y Mwmbwls yn cyflwyno Baton y Frenhines i gynrychiolydd Cyngor Abertawe yn y Knab Rock ar gwch.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Fel dinas chwaraeon Uwch-gynghrair falch ac sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant DU 2021, mae’n addas mai Abertawe fydd lleoliad cyntaf Cymru i gynnal y ras gyfnewid baton. Fel cyngor, un o’n hamcanion yw annog cynifer o bobl â phosib yn y ddinas i sicrhau bod chwaraeon ac ymarfer corff yn rhan bwysig o’u bywydau, felly rydym yn gobeithio y bydd cael Baton y Frenhines yn Abertawe yn ysbrydoli mwy o bobl nag erioed o’r blaen i fanteisio i’r eithaf ar gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff rheolaidd.
“Mae cam cyntaf y ras gyfnewid yn orchest wych i Abertawe ac yn gyfle ac yn anrhydedd mawr i’r rhai sy’n cymryd rhan. Rydym eisiau annog pobl leol i ddod allan ac aros ar hyd llwybr y ras gyfnewid yn Abertawe, gan gefnogi ein cludwyr baton a dod yn rhan o’r dathliadau ar draws y Gymanwlad wrth i ni baratoi ar gyfer Gemau Gymanwlad y Traeth Aur 2018 yn Awstralia’r flwyddyn nesaf.
“Bydd llawer o’r athletwyr sy’n cystadlu ar hyn o bryd ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd yn Llundain ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan yn Awstralia, felly bydd yn ddigwyddiad cyffrous y gall pobl Abertawe ei fwynhau.
Mae lleoliadau ar gyfer cyfnewid y baton ar hyd llwybr Abertawe yn cynnwys Gerddi Southend, West Cross, Blackpill, Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360, a’r Ganolfan Ddinesig.
Bydd medalydd aur nofio Paralympaidd Aaron Moores a chyn-chwaraewr yr Elyrch Lee Trundle ymhlith y cludwyr baton eraill yn Abertawe.