Bydd Castell Ystumllwynarth yn rhannu hen jôcs a rhai newydd wrth i gellweiriwyr ifanc reoli’r atyniad arbennig.
Bydd y teulu cyfan yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau syrcas go iawn yn y digwyddiad ddydd Sadwrn ar gyfer Gŵyl y Banc Calan Mai. Hwn fydd digwyddiad cyntaf tymor yr haf a bydd yn llawn hwyl a gemau yn y castell.
Bydd disgwyl i filoedd o ymwelwyr dyrru i’r Castell sydd ar agor bob dydd tan 30 Medi.
Yn ddiweddarach y mis hwn bydd y Castell yn cyflwyno casgliad newydd o ddigwyddiadau gan gynnwys Ffair Grefftau Crefftwyr Gŵyr ar 28 Mai, Hwyl gyda Chrefftau i Blant ar 30 Mai a strafagansa Creaduriaid Annifyr ar 2 Mehefin.
Mae’r castell hefyd wedi ymuno ag artist lleol, David Marchant, i gyflwyno cyrsiau celf yn y astell dros ddau benwythnos ar 19-20 Mai a 22-23 Medi – mae tocynnau bellach ar gael.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae’r Diwrnod Difyr i Deuluoedd bob amser yn ddigwyddiad poblogaidd a lliwgar, gyda’n harbenigwr wrth law i ddysgu mwy am gyfrinachau’r syrcas.
“Mae’r cyngor yn gweithio’n galed ar y cyd â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth i gynnal yr atyniad hanesyddol a hefyd i drefnu nifer o ddigwyddiadau sy’n addas i deuluoedd bob haf.
“Daeth miloedd ar filoedd o bobl i ymweld â Chastell Ystumllwynarth yr haf diwethaf i fwynhau detholiad o weithgareddau, felly rydym yn disgwyl niferoedd tebyg eleni. Mae’r Castell yn cynnig profiad o’r radd flaenaf i ymwelwyr sydd yr un mor ddifyr ag y mae’n addysgol, ac mae’n rhoi hwb i dwristiaeth yn Abertawe hefyd.”
Mae’r Castell ar agor bob dydd rhwng 11am a 5pm ac mae’n cynnwys hen waith celf o’r 14eg ganrif, pont wydr 30 troedfedd o uchder a grisiau preifat sy’n arwain o gromgelloedd i ystafelloedd a oedd yn cael eu defnyddio fel neuaddau gwledda.
Adeiladwyd Castell Ystumllwynarth yn wreiddiol ym 1106 ar ôl i Gŵyr gael ei dal gan y Normaniaid ac mae wedi bod yn adeilad mawreddog yn y dirwedd leol ers hynny. Roedd Brenin Edward I, a alwyd hefyd yn Edward Hirgoes a Morthwyl yr Albanwyr, wedi ymweld â’r castell am ychydig ym mis Rhagfyr 1284.
Mae’r digwyddiadau eraill sydd ar ddod yn hwyrach yn y flwyddyn yn cynnwys Diwrnod Hwyl Archaeoleg ar 21 Gorffennaf, Diwrnod Dreigiau a Daeargelloedd ar 28 Gorffennaf, Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau ar 11 Awst a Diwrnod Sgiliau a Chrefftau Traddodiadol ar 27 Awst.
Cyflawnwyd cynllun cadwraeth sylweddol yng Nghastell Ystumllwynarth yn y blynyddoedd diweddar gydag arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru drwy Cadw a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Cefnogwyd y cynllun gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth.
Ewch i abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth am fwy o wybodaeth am y castell a’r digwyddiadau sydd ar y gweill.