Spiderman, Mario, Wonder Woman neu Aquaman, Captain Marvel, Supergirl, Buzz Lightyear – does dim ots pwy yw eich hoff archarwr, bydd pob un ohonynt yn aros amdanoch yn nigwyddiad yr Archarwyr yn Sgwâr y Castell ddydd Sadwrn am 4pm!
Byddant yn edrych ymlaen at gael tynnu llun gyda chi ac os ydych chi’n dod i’r digwyddiad wedi gwisgo fel eich hoff archarwr, bydd cyfle i chi geisio ennill gwobr y gystadleuaeth am y wisg archarwr orau.
Yna o 4.30pm bydd dangosiad am ddim o Avengers: Endgame ar y Sgrîn Fawr. Felly cydiwch mewn cadair gynfas a dewch i weld sut mae’r archarwyr yn ymladd yn erbyn Thanos.