Date/Time:
Date(s) - 03/08/2017
2:00 pm
Location: Castell Ystumllwynarth
Dewch i wylio Dotty the Dragon, stori ddifyr a doniol i’r teulu cyfan am gyfeillgarwch go iawn. Gyda chaneuon swynol, cerddoriaeth hudolus a phypedwaith arbennig. Bydd plant 3+ oed wrth eu boddau gyda’r stori hon ac yn siŵr o chwerthin lond eu boliau. Ond bydd oedolion yn cael llawer o hwyl hefyd. Dyma’r sioe berffaith i deuluoedd!
Draig dân fach yw Dotty. Mae’n byw mewn hen gastell llychlyd gyda’i thad sarrug, Mr Dragon.Mae hi wrth ei bodd yn gwylio’r plant yn chwarae yn y pentref islaw a byddai’n hoffi gallu chwarae gyda nhw hefyd!
Un diwrnod, mae Dotty’n cael syniad ardderchog – bydd hi’n hedfan i lawr i’r pentref i ddweud helo! Wedi’r cwbl, mae pawb yn dwlu ar syrpreisys on’d ‘yn nhw? Ond a fydd Dotty’n gwneud ffrindiau newydd neu a fydd trigolion y pentref yn ei herlid yn ôl adref?
Tocyn oedolyn ymlaen llaw: £7 Safonol: £8
Tocyn consesiwn* ymlaen llaw: £6 Safonol: £7
Pasbort i Hamdden ymlaen llaw: £4 Safonol: £5
Tocyn teulu** ymlaen llaw: £20
*Consesiynau – Myfyrwyr, plant dan 16 oed a’r henoed sy’n 65 oed ac yn hŷn
**Mae tocyn teulu ar gyfer 2 oedolyn a hyd at 3 chonsesiwn, ar gael ymlaen llaw’n unig.
Categories No Categories