Rwyf mor gyffrous! Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru neu #WNAS15 yn dychwelyd! Mae ar garreg ein drws yn lleoliad gwefreiddiol Bae Abertawe dros benwythnos 11 a 12 Gorffennaf. Mae cyffro yn yr awyr eisoes oherwydd arddangosiadau awyr ac adloniant awyr gwych eleni.
Allwch chi gofio’r tro diwethaf i ni weld y digwyddiad hwn yn 2013? Os na welsoch y digwyddiad, dyma 10 ffaith i’ch paratoi ar gyfer y flwyddyn hon…rydym yn gobeithio eich gweld chi yno!
- Daeth 180 mil o ymwelwyr i benwythnos y digwyddiad yn 2013.
- Roedd hi’n ddiwrnod twym iawn ac roedd pobl yn mwynhau picnics ar y traeth.
- Roedd y digwyddiad yn werth £8m i’r economi leol.
- Roedd 50 o stondinau busnesau yn ymestyn ar hyd Prom Abertawe o faes parcio’r gorllewin yn y Ganolfan Ddinesig i waelod Lôn Sgeti.
- Denodd y digwyddiad bobl ledled y DU a’r tu hwnt.
- Ymledodd y torfeydd hyd Bae Abertawe o’r Ganolfan Ddinesig i’r Mwmbwls gyda faniau hufen iâ, stondinau a chaffis traeth niferus.
- Cafwyd arddangosiadau ar y ddaear gan Fyddin Prydain, yr RAF a’r Llynges Frenhinol ar hyd y promenâd.
- Roedd yr arddangosiadau awyr yn cynnwys The Red Arrows, Typhoon, Tucano, Tutor, Tîm Erobateg Matador Redbull, Cerddwyr Adenydd Brietling, Tîm Parasiwt y Tigers, hofrenyddion Wildcat y Llynges Frenhinol a Sea King yr RAF – golygfa wefreiddiol i’r torfeydd ar y traeth.
- Roedd yr arddangosiadau ar y promenâd yn cynnwys reid efelychydd Red Arrows a Hawk Jet, reid efelychydd Hediad Coffa Brwydr Prydain, cwrs ymosod y Fyddin, offer chwyddadwy, stondinau masnachu, arddangosiadau coginio a ffair bleser.
- Roedd cŵn yn cael dod i’r digwyddiad a oedd yn wych i deuluoedd a’u hanifeiliaid anwes.
Llun: ‘Ein Red Arrows yn perfformio yn yr awyr’
Llun: ‘Diwrnod crasboeth ym Mae Abertawe’
Llun: ‘Y timau erobateg yn hedfan i’r awyr!’
Llun: ‘Waw dyna wych!’
Llun: ‘Golygfeydd o’r traeth o’r arddangosiadau awyr’
Llun: ‘Rhai awyrennau clasurol’
Llun: ‘Arddangosiad awyr gan yr RAF’
Llun: ‘Golygfeydd o’r traeth’
Llun: ‘Parasiwtiwr yn glanio ym Mae Abertawe’
Llun: ‘Arddangosiadau awyr gan y Red Arrows enwog’
Ewch i weld ein sgyrsiau ar Twitter a Facebook i gadw mewn cysylltiad.
Rydym yn cynnal rhai cystadlaethau gwych i ennill drôn fel y gallwch berfformio eich sioe awyr eich hun a hefyd heriau hunlun ar y dydd. Cadwch lygad ar ein gwefan i gael y cyfle i roi cynnig ar y cystadlaethau gwych hyn.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English