Dyma olwg gyflym ar 2014 wrth i ni symud ymlaen at y flwyddyn newydd sy’n addo bod yn wych. Gyda digwyddiadau newydd eisoes ar y gorwel, mae llawer i’w fwynhau ar draws Abertawe eleni.
Yn 2014, hyrwyddodd Mwynhau Abertawe dros 300 o ddigwyddiadau mewn lleoliadau a mannau allweddol ar draws Dinas a Sir Abertawe. Gyda rhywbeth i bawb, o Gelf a Diwylliant (Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas) a Chwaraeon a Hamdden (4 canolfan Abertawe Actif, Ras 10K Bae Abertawe Admiral) i Adloniant (Neuadd Brangwyn, Plantasia, Castell Ystumllwynarth, Pier Abertawe a dros 85 o barciau). Rydym wedi mwynhau gigs, arddangosfeydd, cyngherddau clasurol, gwyliau, sioeau theatr, dosbarthiadau ffitrwydd, gweithdai celf a chrefft, digwyddiadau hanesyddol a mwy trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn gobeithio y gwnaethoch fwynhau.
Rhai uchafbwyntiau, beth oedd eich rhai chi?
- Cafodd y Brangwyn, lleoliad amlbwrpas a rhan o Neuadd y Ddinas, gwaith adnewyddu gwerth £6 miliwn a gwblhawyd ym mis Awst 2014 ac ers hynny mae wedi bod yn brysur yn cynnal cyngherddau, priodasau, gigs a gwyliau, gydag actau gwych megis Cerddorfa Genedlaethol y BBC, Gŵyl Gwrw CAMRA ac actau poblogaidd megis Russell Kane yn Fyw, Elvis Costello, Cerddorfa Ffilharmonig Rwsia a Karl Jenkins.
- Canolfan Dylan Thomas Bu dathliadau mawr yn 2014 i Abertawe gyda Gŵyl Dylan Thomas a digwyddiadau eraill ar gyfer canmlwyddiant Dylan, pe bai’n byw. Cawsom nifer mawr o ymwelwyr â Chanolfan Dylan Thomas ar gyfer arddangosfeydd megis Dwlu ar y Geiriau, yn ogystal â digwyddiadau llawn sêr megis y Dylathon gyda Syr Ian McKellen a Jo Brand a Bwrlésg Bluestocking Lounge.
- Aeth nifer mawr o sglefrwyr iâ ar y llynnoedd iâ, ac ar y ‘reid frawychus’, Air Maxx, ac i’r ffair, i’r groto ac i’r caffi yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau, atyniad gaeaf Abertawe rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr.
- Bu Amgueddfa Abertawe a’r Brangwyn yn boblogaidd iawn gyda digwyddiadau canmlwyddiant Y Rhyfel Byd Cyntaf; arddangosiadau rhyfel a digwyddiadau a oedd yn cynnwys Gŵyl y Cofio ym mis Tachwedd.
- Roedd Abertawe Actif yn cynnal dros 120 o ddosbarthiadau ffitrwydd BOB WYTHNOS drwy gydol y flwyddyn ar draws Abertawe yn y pedair canolfan hamdden, gan gynnwys Tabata, TRX, Pwysau Tegell, Power Hooping, Cylchedu ac Ioga.
- Roedd Ras 10K Bae Abertawe Admiral yn ddigwyddiad gwych arall, ac eleni mae Abertawe Actif yn bartner.
Dywedwch wrthym am eich hoff ddigwyddiadau y llynedd ar gyfrifon Facebook neu Twitter Joio Bae Abertawe. Byddem yn dwlu clywed amdanynt.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English