Date/Time:
Date(s) - 01/03/2018 - 03/03/2018
All Day
Location: Swansea City Centre
Rydym yn hoffi dathlu yng Nghymru; mae’n rhan fawr o’n diwylliant. Mae Abertawe’n arwain y ffordd o ran dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ac eleni mae gennym 3 diwrnod o ddathliadau.
*Yn anffodus, oherwydd y rhybuddion o dywydd garw yn Abertawe ar gyfer y dyddiau nesaf, rydym wedi gorfod gwneud nifer o newidiadau i ddigwyddiad Croeso’r wythnos hon.*
Nos Iau 1 Mawrth, Sant, Caneuon a Dathlu, Neuadd Brangwyn, 6.30pm
*Oherwydd y rhybuddion o dywydd garw yn Abertawe dros y dyddiau nesaf, mae’n rhaid i mi eich hysbysu bod sioe Sant, Caneuon a Dathlu wedi’i ohirio.*
Bydd y rheiny sydd wedi prynu tocynnau ar-lein yn cael eu had-dalu’n awtomatig, a chysylltir â’r rheiny sydd wedi prynu eu tocynnau dros y ffôn er mwyn trefnu eu had-daliad.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.
Dydd Gwener 2 Mawrth, Gŵyl Bwyd a Diod Croeso, Canol y ddinas, 10am-4pm
- Yn anffodus, mae Gŵyl Bwyd a Diod Croeso, yr adloniant byw yn Sgwâr y Castell a’r Sioe Sant, Caneuon a Dathlu yn Neuadd Brangwyn wedi’u gohirio.
- Bydd yr arddangosiadau coginio byw yn dal i gael eu cynnal ddydd Sadwrn 3 Mawrth, ond byddant bellach yn cael eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Dydd Sadwrn 3 Mawrth, Dathliad Cymreig, Canol y ddinas, 10am-4pm
Yn anffodus, oherwydd y rhybuddion o dywydd garw yn Abertawe ar gyfer y dyddiau nesaf, rydym wedi gorfod gwneud nifer o newidiadau i ddigwyddiad Croeso’r wythnos hon.
Yn anffodus, mae Gŵyl Bwyd a Diod Croeso, yr adloniant byw yn Sgwâr y Castell a’r Sioe Sant, Caneuon a Dathlu yn Neuadd Brangwyn wedi’u gohirio.
- Bydd gweithgareddau Pabell Fawr Cwtsh Croeso hefyd yn dal i gael eu cynnal ac maent wedi’u symud i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
- Bydd Parêd Dewi hefyd yn dal i gael ei gynnal fel a drefnwyd o 2.30pm ddydd Sadwrn 3 Mawrth!
Bydd cerddoriaeth fyw gan fandiau lleol yn eich diddanu wrth i chi bori o gwmpas yr Ŵyl Bwyd a Diod Cymreig. O 3pm, cewch brofi’r lliwiau, y gerddoriaeth, y symudiadau a’r dawnsio bywiog wrth i Barêd Dewi deithio o amgylch canol dinas Abertawe. Ymunwch yn yr hwyl a chwifiwch eich baneri gyda balchder.
Mwynhewch ddinas diwylliant yn Abertawe ym mis Mawrth
Categories