Wrth i chi wylio’r Avengers yn ceisio achub y bydysawd ar y Sgrîn Fawr, beth am fwynhau pryd a fydd yn tynnu dŵr o’ch dannedd o’r Farchnad Bwyd Stryd!
Rhwng 4pm ac 8pm bydd rhai o’r masnachwyr bwyd stryd lleol, gorau yn cynnig popeth poeth ac oer, sawrus a melys – bydd digon o fwyd i lenwi bol yr Incredible Hulk!
Mae’r rhestr lawn o fasnachwyr yn cynnwys:
- Babita’s Spice Kitchen: samosas, byrbrydau Indiaidd a chyris (addas i feganiaid) wedi’u coginio’n ffres
- Bibby’s Beans: bydd eu fan gwersylla retro’n gwerthu te, coffi a siocled poeth
- Waffleshack: wafflau crimp blasus ffres, topins a theisennau
- Gourmet Gower Fudge: cyffug hufennog wedi’i wneud yn ffres
- Alfie’s Beer Bus: cyrfau crefft a seidr lleol
- Country Kitchen: byrgyrs o safon, byrgyrs feganaidd a chŵn poeth
- The Chilli Kitchen: Chilli cartref, tatws pob, sglodion, nachos a chaws