Mae cyllid hyd at £1,500 ar gael ar gyfer clybiau a phrosiectau chwaraeon cymunedol yn Abertawe.
Gellir bellach gyflwyno cais am grantiau drwy’r Gist Gymunedol – cynllun Chwaraeon Cymru a ariennir gan y Loteri Genedlaethol a sefydlwyd er mwyn creu gwlad fwy actif.
Nod amcanion y Gist Gymunedol yw annog pobl i wneud ymarfer corff yn fwy aml, gwella safonau cyfleusterau chwaraeon a chynnig cyfleoedd newydd ar gyfer gwneud ymarfer corff.
Rhaid derbyn mynegiannau o ddiddordeb mewn derbyn grant erbyn ddydd Gwener 13 Ionawr.
Meddai’r Cyng. Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les a Dinas Iach, “Mae gennym amrywiaeth helaeth o gyfleusterau chwaraeon a gweithgareddau yn Abertawe, ond bydd yr arian hwn yn helpu clybiau chwaraeon cymunedol a phrosiectau i wella eu darpariaeth bresennol.
“Mae ffrydiau ariannu fel hyn yn bwysig oherwydd gallent arwain at y fath o gyfleusterau a gweithgareddau a fydd yn annog mwy o bobl i fod yn hapusach ac yn iachach drwy wneud ymarfer corff mwy rheolaidd.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gyflwyno cais.”
E-bostiwch nia.parry@swansea.gov.uk neu ffoniwch 01792 635452 am fwy o wybodaeth.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English