Mae hi’n Ddydd Miwsig Cymru heddiw a bydd digonedd o gerddoriaeth fyw sy’n dathlu’r Gymraeg yn nigwyddiad Croeso ar 1 a 2 Mawrth yn Sgwâr y Castell.
Bydd bandiau o Gymru megis Brigyn yn darparu cymysgedd o gerddoriaeth werin fodern yn ogystal ag Arwel Lloyd, canwr, cyfansoddwr, cyd-ysgrifenydd a gitarydd Al Lewis Band. Mae rhai wedi perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a gwyliau Cymreig eraill.
Bydd cerddoriaeth hefyd gan fand Tref Casllwchwr, Côr Tenovous, y delynores Gymraeg Molly Yospa a fflachgriw ar brynhawn dydd Sadwrn.
Os ydych chi’n mwynhau cerddoriaeth deyrnged, dewch i ymuno â pherfformiwr teyrnged gorau’r DU, Robb Dee, yn ‘The Tom Jones Experience’. Mae wedi bod yn perfformio am dros 40 o flynyddoedd gan ymddangos ar y teledu gyda Bradley Walsh, Peter Andre a Jason Manford.
Nid yw’r gerddoriaeth yn dod i ben ar ddiwedd y dydd chwaith, oherwydd bydd bariau a bwytai lleol yn parhau â’r dathliadau tan y nos gydag adloniant a drefnir gan Hwb Cerddoriaeth Abertawe. Bydd digwyddiadau cerddoriaeth am ddim yn ogystal â bwyd a diod.
Ymunwch â’r dathliad deuddydd sy’n cynnwys cerddoriaeth ac adloniant i’r teulu yng nghanol y ddinas ym mis Mawrth.