Date/Time:
Date(s) - 01/03/2019 - 02/03/2019
11:00 am - 4:00 pm
Location: Sgwâr y Castell
Bydd y strydoedd yn llawn arogl cynnyrch cartref blasus gyda phebyll mawr yn gwerthu cynnyrch lleol ac arddangosiadau coginio ar hyd Stryd Rhydychen ac yn Sgwâr y Castell dros y dau ddiwrnod. Ewch am dro o gwmpas y stondinau a phrofwch rywfaint o gynnyrch Cymreig gan fasnachwyr a fydd yn gwerthu amrywiaeth o gynnyrch lleol. Ac os ydych chi’n dymuno dysgu o’r gorau, ewch i’r babell fawr ar Stryd Rhydychen a mwynhau’r arddangosiadau coginio gan gogyddion enwog.
Rhan o ddigwyddiad Croeso Abertawe 2019 – Darganfod mwy
Cais Stondinau Masnach
Mae ceisiadau stondinau masnach ar gyfer digwyddiad Bwyd a Diod Croeso 2019 yn cau ar 15 Chwefror – cyflwynwch gais ar-lein heddiw.
Gower College
Dydd Gwener 1 Mawrth, 11am – 1pm
Dewch i wylio myfyrwyr Coleg Gŵyr wrth iddynt arddangos eu sgiliau coginio. Mae’r myfyrwyr hanner ffordd trwy eu hail flwyddyn ac eisoes yn datblygu’n dda fel cogyddion a pherchnogion bwytai’r dyfodol. Yn ystod eu hamser yn y coleg maent wedi dysgu pethau sylfaenol am goginio’n ymarferol ac yn ddamcaniaethol yn ogystal â datblygu eu sgiliau gwasanaeth bwyd a diod a rhoi sylw at wasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Maent yn gallu rhoi hyn i gyd ar waith mewn amgylchedd gwaith go iawn yn ein bwyty: The Vanilla Pod. Mae’r bwyty hyfforddi hwn, sydd yng ngampws Tŷ Coch, ar agor i’r cyhoedd ar gyfer cinio ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener yn ogystal ag ar nos Iau.
Sophie Faldo
Dydd Gwener 1 Mawrth, 1pm – 2pm
Ganed Sophie yn Llundain ac fe’i magwyd yn Suffolk. Ar ôl iddi ennill gradd baglor mewn Seicoleg o Brifysgol Manceinion, enillodd radd meistr, hefyd mewn Seicoleg, o Brifysgol Toulouse cyn cael ei phenodi i hyfforddi yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst, lle cafodd ei chomisiynu fel swyddog yn y Magnelwyr Brenhinol. Bu’n gwasanaethu ym mhedwar ban byd, gan gynnwys yn Afghanistan, cyn iddi adael ac ymuno â rhaglen datblygu rhwyfo tîm y DU yn amser llawn yn Molesey Boat Club. Ar ôl cael anaf, roedd wedi ymddeol o’i gyrfa ym maes rhwyfo a gweithiodd fel ymgynghorydd goruchwyliaeth a hyfforddwr teithiau sgïo alpaidd cyn cofrestru am gystadleuaeth The Great British Bake Off.
Ers iddi ennill y gystadleuaeth ym mis Chwefror 2017, mae Sophie wedi ymddangos ar Lorraine, sioeau radio amrywiol gan gynnwys RTE 1, BBC Radio 5 Live, a chyhoeddwyd erthyglau ganddi yn The Telegraph, The Sunday Times, The Irish Independent, The Mail on Sunday, cylchrawn OK, The Radio Times, cylchgrawn Delicious a sawl un arall. Rhoddwyd ei henw ar restr fer Women of the Future Awards 2018 yn ddiweddar lle derbyniodd ganmoliaeth arbennig yng nghategori’r cyfryngau.
Fe’i comisiynwyd i bobi teisen naw darn i nodi 80 mlynedd HMS Belfast, paratoi gwledd VIP gyda chasinos Grosvener mewn cydweithrediad ag Angelica Bell (enillydd Celebrity Masterchef) a churadu te prynhawn mewn cydweithrediad â Laurent Perrier. Mae’n arddangos yn gyson hefyd mewn sioeau bwyd rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys The Ideal Home Show yn Olympia.
Hywel Griffith
Dydd Gwener 1 Mawrth, 3pm – 4pm
Cafodd y Cymro brodorol Hywel Griffith, sy’n siaradwr Cymraeg rhugl, ei fagu ym Methesda yng Ngwynedd a datblygodd ei grefft yng Ngholeg Menai ym Mangor cyn gweithio yn The Lanesborough yn Llundain. Ei rôl nesaf oedd bod yn ben-cogydd cynorthwyol gyda Simon Radley yng ngwesty The Chester Grosvenor cyn dychwelyd i Gymru fel pen-cogydd cynorthwyol yn Neuadd Ynyshir ger Machynlleth. Yn ystod ei gyfnod yn Neuadd Ynyshir, derbyniodd y bwyty dair rhoséd a seren Michelin.
Cafodd ei swydd fel Prif Gogydd cyntaf ym Mwyty Longridge Paul Heathcote lle derbyniodd dair rhoséd gan yr AA. Yn 2011, symudodd i rôl y Prif Gogydd ym mwyty’r Freemasons at Wiswell, y bwyty tafarn cyntaf yn y DU a’r unig un hyd yn hyn i ennill sgôr goginio o 7/10 yn The Good Food Guide.
Mae Hywel wedi bod wrth y llyw ym mwyty Beach House ers iddo agor yn haf 2016. Mae eisoes wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Bwyty’r Flwyddyn 2017 Twristiaeth Bae Abertawe a Bwyty’r Flwyddyn 2018 gan yr AA.
Sian Day
Dydd Sadwrn 2 Mawrth, 11am – 12pm
Bydd Sian Day, sy’n awdur bwyd ar gyfer cylchgrawn Swansea Life, yn gogydd cartref ac sydd hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol ‘My Kitchen Rules’ ar Channel 4, yn coginio bwyd cartref gan ddefnyddio’r cynnyrch Cymreig gorau. Mam-gu a Thad-cu Sian, a oedd yn tyfu, yn magu ac yn coginio’u holl fwyd eu hunain, sydd wedi’i hysbrydoli i goginio. Mae Sian wedi cynnal ysgol goginio i blant ac wedi cyd-drefnu gŵyl fwyd arobryn Abertawe yng Ngorseinon. Mae bellach yn canolbwyntio ar ysgrifennu a chyflwyno.
Jon Jenkins
Dydd Sadwrn 2 Mawrth, 12pm – 1pm
Yn wreiddiol o Gasnewydd yn Ne Cymru, llwyddodd Jon Jenkins i ennill edmygedd miloedd o wylwyr yn ystod y gyfres Great British Bake Off yn gynharach eleni. Nid yn unig daeth yn adnabyddus am fod yn Gymro balch, yn pobi amrywiaeth o ddanteithion Cymreig y mwyafrif o wythnosau, ond roedd hefyd yn arddangos ei gariad at grysau lliwgar Hawäiaidd, trwy wisgo crys gwahanol bob wythnos, gan gynnwys crys Hawäiaidd at thema’r Nadolig, gyda Siôn Corn mewn sgert wair. Enillodd Jon boblogrwydd mawr hefyd am ddod â hwyl i’r babell trwy wisgo twtw i gyflwyno ei deisen fale i’r beirniaid ac am fod yn ‘arwr’ pan aeth i helpu Ruby, ei gyd-gystadleuydd, pan oedd hi’n cael trafferthion. Roedd ei wybodaeth helaeth am bobi wedi creu argraff dda ar y cyhoedd a’r beirniaid hefyd – dyma’r tro cyntaf y clywyd sôn am ‘spherification‘ yn y babell a phwy all anghofio ei belenni lemwn pefriog bach..
Mae Jon yn ddyn teulu cariadus ac yn byw yng Nghasnewydd gyda’i wraig a dwy ferch. Mae ganddo hefyd ddau blentyn hŷn sy’n byw yn agos ato. Ers bod ym mhabell Bake Off, mae Jon wedi cael ymateb hynod gadarnhaol gan y cyhoedd a’r cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi rhoi cyfleoedd iddo, fel gweithio i’r BBC fel rhan o Blant mewn Angen ac ar BBC Radio Wales fel rhan o raglen Foodie Friday. Yn ogystal, gwerthwyd yr holl docynnau o fewn awr ar gyfer noson arddangos yr oedd yn ei chynnal, gan arwain at ail noson yn cael ei threfnu, a bydd yn rhan o ysgolion pobi ar draws y wlad dros nifer o benwythnosau’r flwyddyn nesaf. Mae Jon wedi bod yn ymwneud â hyrwyddo cynnyrch pobi ac yn cynnal nifer o ddiwrnodau agored, gan gynnwys un gan Redrow Homes
Imran Nathoo
Dydd Sadwrn 2 Mawrth, 1pm – 2pm
Ar ôl brwydro’n frwd, llwyddodd Imran yn y rownd gogynderfynol yng nghystadleuaeth MasterChef 2017 i fod yn un o’r 10 ymgeisydd olaf. Ers hynny, mae Imran wedi bod yn cynnal cyfres o glybiau swper y gwerthwyd pob tocyn ar eu cyfer yng Nghaerdydd. Yn ei ddigwyddiadau diweddaraf, dangosodd Imran sut mae ei fwyd yn datblygu wrth iddo geisio creu argraff ar y byd bwyd yng Nghymru. Fel pe na bai bod yn ddeintydd ac yn dad yn ddigon, mae Imran wedi bod yn arddangos ei sgiliau coginio mewn nifer o wyliau a digwyddiadau ledled Cymru a’r DU, gan gynnwys coginio ym marchnad enwog Borough, Sioe Frenhinol Cymru a Gŵyl Fwyd y Fenni, sy’n wych.
Mae Imran wedi bod yn gweithio fel deintydd am yr 11 mlynedd diwethaf ond bwyd a choginio yw ei wir gariad. Gall wneud pobl yn hapus os yw’n cael ei wneud yn dda. Yn gyffredinol nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn hapus wrth ymweld â’r deintydd! Mae bwyd Imran wedi’i ysbrydoli gan fwyd o bob cwr o’r byd ond mae’r bwyd yr oedd yn ei fwyta pan oedd yn blentyn, Gujrati, ynghyd â’i deithiau o gwmpas y byd, wedi dylanwadu’n fawr arno. Y canlyniad yw ei ddehongliad unigryw o fwyd Asiaidd o Brydain. Mae anturiaethau bwyd Imran yn cael eu cofnodi yn ei flog o’r enw ‘Kitchen Clonc’ (mae ‘Clonc’ yn air llafar sy’n golygu sgwrs yn Gymraeg) lle mae’n cofnodi ei brofiadau ym myd bwyd yn ogystal â ryseitiau ac adolygiadau bwytai.
Katie Davies
Dydd Gwener 1 Mawrth, 2pm – 3pm
Dydd Sadwrn 2 Mawrth, 2pm – 3pm
Cyrhaeddodd Katie Davies yr wyth olaf yng nghystadleuaeth Britain’s Best Home Cook ar BBC One gyda Mary Berry. Daw Katie o Gastell-nedd, a hi oedd yr unig gystadleuydd o Gymru. Mae’n fam i 4 o blant hyfryd ac mae’n ymdrin â galwadau 999 gyda Heddlu De Cymru. Mae Katie yn gogydd cartref brwd, a chanddi ddawn cyfuno cynhwysion anghyffredin. Mae hi bob amser yn chwilio am flasau neu weadeddau newydd i’w defnyddio yn ei choginio cartref godidog. Llwyddodd Katie i synnu a syfrdanu’r beirniaid gyda’i chreadigrwydd a’i chwaeth pryd bynnag y byddai’n coginio, ac yn enwedig ei defnydd o gynnyrch lleol o Gymru.
Anthony Evans
Dydd Sadwrn 2 Mawrth, 3pm – 4pm
Ers ei ieuenctid bu Anthony yn bysgotwr ac yn heliwr o fri ac arweiniodd hyn at ddiddordeb mewn coginio. Ers 2006 mae Anthony wedi cyflwyno ei raglen goginio ei hun, sef Stwffio ar S4C. Enwebwyd Stwffio ar gyfer BAFTA Prydeinig yn 2007, yn y categori Rhaglen Adloniant Gorau i Blant. Mae Anthony wedi ymweld â phob rhan o Gymru wrth ffilmio ar gyfer y rhaglen Stwffio, ac mae wedi teithio’r byd gyda’i anturiaethau pysgota, o Wlad yr Iâ, yr Eidal a Sbaen, i Foroco, Hong Kong a Japan.
Yn ddiweddar cyhoeddodd Anthony ei lyfr “Byw Bywyd Bwyd Ant” lle mae’n ceisio ein perswadio i fod yn ddychmygus ac yn anturus yn y gegin. Yng nghwmni Castell Howell erbyn hyn, mae Anthony yn rheolwr datblygu busnes, ac mae’n ffynnu ar werthu a hyrwyddo bwyd cymaint ag y mae’n dwlu ar goginio.
Amserlen
Dydd Gwener 1 Mawrth
11am – 1pm: Coleg Gŵyr/Vanilla Pod
1pm – 2pm: Sophie Faldo, Enillydd The Great British Bake Off 2017
2pm – 3pm: Katie Davies, o raglen Britain’s Best Home Cook 2018 gyda Mary Berry
3pm – 4pm: Hywel Griffith, Pen-cogydd Beach House
Dydd Sadwrn 2 Mawrth
11am – 12pm: Siân Day, The Vintage Cake Company a chystadleuydd yn My Kitchen Rules
12pm – 1pm: Jon Jenkins, Cystadleuydd yn The Great British Bake Off 2018
1pm – 2pm: Imran Nathoo, Rownd derfynol Masterchef 2017
2pm – 3pm: Katie Davies, o raglen Britain’s Best Home Cook 2018 gyda Mary Berry
3pm – 4pm: Anthony Evans, Stwffio a S4C
Trade Stands
There are over 25 welsh food and drink traders booked in for the Croeso event on 1 and 2 March in the city centre! From brownies and cheese to welsh cream liquer and gin, come along and witness the delicious home-made produce for yourselves!
Rhan o ddigwyddiad Croeso Abertawe 2019 – Darganfod mwy
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English