Date/Time:
Date(s) - 23/11/2018
7:45 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
“Honest, beautiful and bewitching…a triumph”
Adain y Celfyddydau
Mae Luna Rossa’n dod â’u sioe acwstig drawiadol o’r 21ain ganrif i Abertawe ym mis Tachwedd, fel rhan o daith fawr y DU i hyrwyddo’u halbwm stiwdio newydd.
Anne-Marie Helder a Jonathan Edwards yw Luna Rossa – yr un tîm o gyfansoddwyr arobryn a ysgrifennodd ganeuon roc ardderchog Panic Room.
Dechreuodd Luna Rossa yn wreiddiol fel prosiect ‘chwaer fach’….mewn ystafell fach gydag awyrgylch hamddenol lle roeddent yn gallu mynegi eu syniadau mwy personol am ganeuon.
Ond ers llwyddiant beirniadol sylweddol eu halbwm cyntaf yn 2013 (Sleeping Pills & Lullabies) a’i ddilyniant syfrdanol (Secrets & Lies), mae Luna Rossa wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl gan fod yn un o’r grwpiau uchel eu parch mwyaf cyffrous a phoblogaidd yng ngherddoriaeth acwstig ryngwladol.
Gyda’u defnydd bywiog o offerynau’n unig – piano, gitâr, telyn Geltaidd a llais – ar y cyd â’r ychwanegiad o ddolenni, rhythmau a samplau o’r 21ain ganrif, mae Luna Rossa wedi creu byd newydd o sain.
Mae eu cerddoriaeth yn hardd, yn ddiamser, yn ddramatig, yn boblogaidd ac yn hollol gyfareddol ar yr un pryd.
Mae Helder ac Edwards yn byw yn Abertawe, ond mae eu hymrwymiadau teithio fel arfer yn eu cadw oddi cartref.
Y sioe unigryw hon yn Theatr y Grand fydd y tro cyntaf iddynt berfformio’n fyw yn y ddinas ers sawl blwyddyn, felly bydd hi’n ddathliad o lawer o bethau, gan gynnwys cerddoriaeth, bywyd, llwyddiant a dychwelyd adref.
Bydd y gwestai arbennig, Sarah Dean (telyn Geltaidd a llais harmoni) yn ymuno â Luna Rossa ar y llwyfan.
Mae hon yn noson drawiadol yng ngolau cannwyll ac ni ddylid ei cholli!
Tocynnau: £15.00
Ffôn: 01792 475715
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English