Date/Time:
Date(s) - 16/11/2018 - 20/12/2018
9:30 am - 5:30 pm
Location: Oxford Street
O Dydd Gwener 16 Tachwedd i Dydd Iau 20 Rhagfyr, ymwelwch â’r crefftwyr talentog, y masnachwyr a’r masnachwyr bwyd stryd niferus sy’n cynnig amrywiaeth o anrhegion unigryw, trîts dengar ac addurniadau hardd ym Marchnad Nadolig Abertawe os rydych am gael rhywbeth arbennig i’r Nadolig eleni.
Os ydych yn chwilio am anrheg arbennig, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â’r gemyddion, y ffotograffwyr, y chwythwyr gwydr a’r artistiaid cerameg ar hyd Stryd Rhydychen a Ffordd y Dywysoges. Bydd plant yn dwlu ar y rhoddion personol hardd o waith llaw a bydd y rhai sy’n dwlu ar fwyd a diod yn bendant yn gwerthfawrogi’r fodca taffi crefft, y siocledi o waith llaw a’r cawsiau a’r gwin o safon. Bydd bwydydd poblogaidd yr ŵyl ar gynnig ynghyd â bwydydd tramor blasus, a bydd bar Nadoligaidd clyd lle gallwch ymlacio gyda gwydraid o win y gaeaf. Gyda sawl masnachwr newydd ar gael bob wythnos, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth gwahanol yn ystod pob ymweliad.
Ar agor: Dydd Llun i ddydd Sadwrn, 9.30am a 5.30pm; dydd Sul, 10am – 5pm.
Mae casgliad gwych hefyd o fwydydd Nadoligaidd blasus i’ch cadw i fynd a bar Nadolig lle gallwch ymlacio gyda gwin y gaeaf. Bydd y plant yn dwlu ar ymweld â Groto Siôn Corn ar Stryd Portland a bydd y teulu cyfan yn sicr o gael diwrnod allan gwych!
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English