Date/Time:
Date(s) - 08/10/2018
7:30 pm
Mae NAWR yn gyfres o gyngherddau yn Abertawe sy’n arddangos cerddoriaeth arbrofol, byrfyfyrio rhydd, ffilm, lo-fi, jazz rhydd, celf sain, gwerin amgen a cherddoriaeth newydd. Fel rhan o Ŵyl Ryngwladol Abertawe eleni, mae cydweithrediad gyda NAWR yn dod â thri chyngerdd cyfareddol ac unigryw i’r ŵyl.
Bydd NAWR yn cynnal eu cyngherddau yn Stiwdios PCDDS Abertawe yn neuadd hanesyddol y BBC, gem gudd ymysg neuaddau cyngerdd Abertawe ac un o’r gofodau gwrando gorau yng Nghymru. Maen nhw’n anelu at gynnig gofod agored a myfyrgar i gynulleidfa gael profiad o gerddoriaeth newydd mewn lleoliad croesawgar a chlos.
Trydydd cyngerdd y gyfres, a’r olaf, lle bydd ACCÜ ac R.Seiliog yn perfformio.
ACCÜ
Accü yw’r cerddor, y cynhyrchydd a’r artist recordio a aned yn yr Iseldiroedd, Angharad van Rijswijk. Symudodd y gantores-gyfansoddwr hanner Iseldireg hanner Gymreig i gefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn blentyn ac mae’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Wrth gychwyn o’r diwedd ar ei gyrfa fel unawdydd, mae’n cyfaddef fod ei phroses o ysgrifennu caneuon yn hynod ddi-drefn, a dyna’r esboniad dros ei henw Accü (sy’n golygu ‘crynhöwr’ mewn Iseldireg), gan adlewyrchu’r modd y mae hi’n casglu ac yn crynhoi ei gwaith yn eiriol, yn weledol ac yn seiniol i greu ei chaneuon.
Hyd yma mae hi wedi gweithio a recordio gyda’r awdur a’r digrifwr Stewart Lee, Cornershop ac mae’n cydweithio’n aml gyda Richard James o Gorky’s Zygotic Mynci.
Bydd ei halbwm cyntaf, Echo The Red, yn cael ei ryddhau ar Libertino Records.
R.Seiliog
R. Seiliog yw enw perfformio Robin Edwards, cerddor/cynhyrchydd o Ogledd Cymru. Mae’n dod o fryniau pinwyddog Peniel yng Ngogledd Cymru ac yn 2012 fe ryddhaodd ei EP analog seicedelog cynnes Shuffles, gyda’i LP cyntaf Doppler yn dilyn yn 2013, teyrnged lygadrwth i Krautrock. Cafodd Doppler gymaint o ddylanwad ar y Manic Street Preachers nes iddyn nhw ymddiried yn Edwards i ailgymysgu eu sengl Futurology.
Cafodd ei ail albwm ei ryddhau yn 2014 a chafodd ganmoliaeth eang: mae In Hz yn waith meistrolgar o electroneg a drôn cymhleth arweiniodd at Thrump yn ei ganmol gan ddweud ei fod ‘mor dda nes ei fod yn brifo’, a chylchgrawn Mojo yn dweud bod ‘R Seiliog yn gyfrifol am record cynnil a dychmygus sy’n pontio sawl arddull’.
Mae gwaith R.Seiliog wedi cael ei chwarae ar y radio gan bobl fel Huw Stephens, Mary Anne Hobbs, Radcliffe a Maconie a Lauren Laverne.
Bydd R.Seiliog yn perfformio mewn nifer o sioeau yng Nghymru yn yr hydref a’r gaeaf, gyda rhagor o sioeau yn y DU yn y flwyddyn newydd gyda manylion i’w cyhoeddi’n fuan.
Drysau’n agor am 19:00.
Tocynnau
£7, dim seddi cadw.
Bydd tocynnau ar gael wrth y drws.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English