Bydd tocynnau i gyngerdd mawr Club MTV a gynhelir ym Mharc Singleton y mis nesaf ar gael o fore dydd Gwener (5 Awst) am 9am.
£15 yn unig yw pris y tocynnau (yn ogystal â ffi archebu), a gellir eu prynu naill ai ar wefan Ticketmaster neu o siop Derricks Music ar Stryd Rhydychen.
Cynhelir cyngerdd Club MTV, a fydd yn cynnwys saith awr o gerddoriaeth fyw, ddydd Sadwrn 24 Medi.
Bydd MTV yn cyhoeddi rhai o’r artistiaid a fydd yn cymryd rhan yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae cynlluniau eisoes ar waith i sicrhau y ceir llwyfannu, goleuo a sain o safon ryngwladol.
Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi gweithio’n agos gyda MTV a Llywodraeth Cymru i ddod â’r cyngerdd i’r ddinas.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Bydd y cyngerdd hwn, a fydd â lle i 20,000 o bobl yn y gynulleidfa, yn un o’r digwyddiadau mwyaf yn Abertawe eleni felly roedd yn bleser gennym weithio mor agos gyda MTV a Llywodraeth Cymru i gytuno ar bris rhesymol iawn am docynnau i’n preswylwyr lleol ac ymwelwyr â’r ddinas.
“Mae Parc Singleton yn lleoliad gwych ar gyfer cyngherddau cerddorol, fel y gwelwyd gyda pherfformiadau gan sêr megis Paolo Nutini ac Alfie Boe yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd y digwyddiad hwn yn dilyn cyngerdd Noel Gallagher’s High Flying Birds yn y parc a gynhelir ar 2 Medi.
“Mae Abertawe’n ddinas sydd eisoes ag enw da am gerddoriaeth fyw. Bydd y cyngerdd hwn yn atgyfnerthu’r enw da hwnnw drwy roi adloniant o safon ryngwladol i breswylwyr ar garreg eu drws unwaith eto.”
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English