Cynhelir prif arddangosfa tân gwyllt Abertawe nos Fawrth, 5 Tachwedd
Fel rhan o’r dathliadau i nodi 50 mlynedd ers derbyn statws dinas, bydd arddangosfa Cyngor Abertawe am ddim i bawb eleni, ac fe’i cynhelir ar draeth Abertawe.
Felly sut gallwch fwynhau’r sioe drawiadol?
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Bydd yr achlysur cymdeithasol hwn yn un go arbennig mewn amgylchedd diogel sy’n addas i deuluoedd – rydym am i bawb gael amser gwych wrth i ni barhau i nodi 50 mlynedd cyntaf Abertawe fel dinas.
“Ein digwyddiad tân gwyllt blynyddol yw arddangosfa fwyaf Abertawe ac rydym yn disgwyl torf enfawr felly byddem yn annog yr holl wylwyr i gyrraedd mor gynnar â phosib.”
Pryd bydd y cyfan yn digwydd?
Nos Fawrth, 5 Tachwedd, o 6pm i 8pm. Tân gwyllt cyn 7pm.
Adloniant cyn ac ar ôl y tân gwyllt. Bydd y digwyddiad yn gorffen am 8pm.
Beth sy’n digwydd?
Yr arddangosfa tân gwyllt – wedi’i lansio o’r traeth ychydig gannoedd o lathenni o’r prom – fydd yr uchafbwynt.
Yn y cyfnod cyn yr arddangosfa, bydd sioeau tân ar y traeth. Bydd yr adloniant cyn ac ar ôl y tân gwyllt yn cynnwys archarwyr a fydd yn crwydro o gwmpas y lle, cerddwyr ar ystudfachau, jyglwyr tân a robotiaid sy’n disgleirio.
Bydd digon o ddewisiadau bwyd a diod drwy gydol y digwyddiad, gan gynnwys byrgers o safon, cerfdy rhost traddodiadol, mochyn rhost, cŵn poeth, pizza o ffwrn tân coed, pysgod a sglodion a danteithion melys gan gynnwys teisennau, losin, crêpes a thoesenni.
Ble bydd y lleoedd gorau i’w gweld?
Bydd modd gweld yr arddangosfa tân gwyllt o bob rhan o’r bae a bydd y golygfeydd gorau i’w cael ar y Prom a’r traeth, rhwng y Ganolfan Ddinesig a’r Senotaff.
Sut dylem ni gyrraedd yno; beth am y traffig a’r parcio?
Disgwylir i’r traffig yn yr ardaloedd glan môr a chanol y ddinas fod yn brysur, felly dylai’r rheini sy’n bwriadu dod deithio’n gynnar a chaniatáu amser ychwanegol.
Bydd un o lonydd Heol y Mwmbwls sy’n mynd tua’r gorllewin – yr un agosaf at y prom – ar gau rhwng y Ganolfan Ddinesig a Lôn Brynmill rhwng oddeutu 6pm ac 8pm er diogelwch cerddwyr.
Bydd meysydd parcio’r digwyddiad ar agor o 5pm. Cost parcio fydd £5 y cerbyd – rhaid i bawb dalu wrth gyrraedd. Dyma’r meysydd parcio: Tir i Rec, y Cae Lacrosse, meysydd parcio dwyreiniol a gorllewinol y Ganolfan Ddinesig, Rotwnda Neuadd y Ddinas, Baddonau San Helen, a Stryd Paxton. Gellir parcio hefyd ym meysydd parcio Lôn Sgeti a Llyn Cychod Singleton, a meysydd parcio arferol canol y ddinas.
Mae safle’r digwyddiad mewn ardal breswyl – parciwch mewn modd cyfrifol. Bydd Swyddogion Gorfodi Traffig ar ddyletswydd.
Beth am ddychwelyd adref wedyn?
Oherwydd y nifer mawr o gerbydau sy’n debygol o fod yn gadael yr ardal o fewn amser byr, disgwylir i’r traffig fod yn drwm ar ddiwedd y digwyddiad. Bydd y traffig yn cael ei stopio am gyfnod byr ar Heol Ystumllwynarth/Heol y Mwmbwls ar ddiwedd y digwyddiad i alluogi nifer mawr o wylwyr i groesi’r ffordd yn ddiogel er mwyn cyrraedd eu cerbydau.
Fydd y traeth a’r prom yn cael eu glanhau wedyn?
Bydd mannau casglu sbwriel ychwanegol o gwmpas y Senotaff a’r Ganolfan Ddinesig – a bydd casglwyr sbwriel y cyngor yn clirio’r lle ar ôl y digwyddiad ac yn gynnar fore trannoeth. Gofynnir i wylwyr helpu i gadw’r ardal yn lân drwy daflu eu sbwriel yn gyfrifol neu fynd ag ef adref gyda nhw.
Pam nad yw’n cael ei chynnal ar y maes rygbi fel arfer?
Bydd yr arddangosfa tân gwyllt, a gynhelir yn draddodiadol ar faes San Helen, yn symud i’r traeth eleni. Bydd hyn yn digwydd am flwyddyn yn unig fel rhan o ddathliadau Abertawe’n 50.
Brought to you by:
Swansea Council
Official Radio Partner:
The Wave & Swansea Sound
Supported by:
Domino’s Swansea