Bydd Belle brydferth a’r Bwystfil, ceirw wedi’u goleuo ac adar enfawr hudol Gwledd y Gaeaf yn ymuno â chast o gannoedd ar gyfer Gorymdaith y Nadolig eleni yng nghanol y ddinas.
Mae 17 Tachwedd yn argoeli i fod yn noson fythgofiadwy ar gyfer ieuenctid y ddinas wrth i gymeriadau llyfrau stori ddod yn fyw i adrodd hanesion sy’n llawn hud a lledrith a goleuadau disglair.
Bydd cerbyd tywysoges, cymeriadau o’r sioe gerdd boblogaidd, Frozen, ynghyd â chast o gannoedd o wirfoddolwyr o’r gymuned i’w gweld ar strydoedd canol y ddinas wrth i’r paratoadau gychwyn ar gyfer cyfnod y Nadolig.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Eleni, a hithau’n hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas, rydym yn bwriadu creu awyrgylch carnifal go iawn, sy’n llawn goleuadau, cerddoriaeth, dawnsio ac sy’n cynnwys straeon tylwyth teg a chymeriadau ffilmiau hynod boblogaidd.
“Mae’r Nadolig yn un o gyfnodau pwysicaf y flwyddyn ar gyfer canol y ddinas ac mae Gorymdaith y Nadolig ynghyd ag ymweliad Siôn Corn a chynnau goleuadau’r Nadolig yn codi’r llen ar gyfer hwyl yr ŵyl ac yn codi hwyliau pobl.”
Bydd Spark!, sioe theatr stryd o 2017 yn ymuno â’r orymdaith, gan gyfuno perfformiad drymio effaith uchel ynghyd â dyluniad goleuo caleidosgopaidd. Bydd ceirw enfawr wedi’u goleuo a fydd yn ymddangos fel pe baent yn arnofio yn yr awyr ac adar enfawr hudol Gwledd y Gaeaf, y mae eu hwyliau’n newid gyda’r goleuadau a’r gerddoriaeth.
Bydd ymddangosiadau arbennig hefyd gan Fand Pibau Abertawe, Band Tref Casllwchwr, nifer o gymeriadau teledu plant, sglefrolwyr Nadoligaidd, pobl ar fyrddau hofran Nadoligaidd ac ymddangosiadau arbennig gan gymeriadau panto Theatr y Grand eleni, Peter Pan.
Cynhelir Gorymdaith y Nadolig a Chynnau Goleuadau Abertawe 2019 o 5pm ar 17 Tachwedd.
Bydd yr orymdaith yn dechrau yn Stryd y Gwynt cyn mynd i gyfeiriad Stryd y Castell a’r Stryd Fawr, i mewn i Heol Alexandra, i lawr Stryd y Berllan ac ar hyd Ffordd y Brenin.