
Mae’r miloedd o bobl sy’n bwriadu mwynhau Arddangosfa Tân Gwyllt am ddim Bae Abertawe eleni yn cael eu hannog i gyrraedd yn gynnar.
Mae’r arddangosfa am ddim i bawb eleni fel rhan o ddathliadau Abertawe’n 50, a bydd y golygfeydd gorau ar gael o’r prom rhwng y Ganolfan Ddinesig a Lôn Brynmill.
Ond mae teuluoedd yn cael eu hannog i gyrraedd yn gynnar oherwydd mae’n debygol y bydd traffig yn yr ardal yn brysur iawn.
Bydd parcio ar gael yn y chwe maes parcio gerllaw sy’n eiddo i’r cyngor o 5pm, ac am gost o £5 yn unig i bob cerbyd. Mae’r digwyddiad yn agor am 6pm gyda’r arddangosfa’n dechrau am 7pm. Daw’r digwyddiad i ben am 8pm.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Ein digwyddiad tân gwyllt blynyddol yw arddangosfa fwyaf Abertawe, sy’n cynnig cyfle gwych ac arbennig i gymdeithasu mewn amgylchedd cyfeillgar.
Ychwanegodd, Mae’r arddangosfa tân gwyllt yn dechrau am 7pm ond bydd adloniant gan archarwyr a cherddwyr ar ystudfachau yn y prif ardaloedd cyn ac ar ôl yr arddangosfa. Hefyd bydd sioe dân wedi’i choreograffu i’w gweld mewn dwy ardal ar y traeth, gyda jyglwyr tân a pherfformwyr eraill i’ch diddanu cyn yr arddangosfa. Bydd bwyd a diod ar gael ar safleoedd y Ganolfan Ddinesig a’r Senotaff rhwng 6pm ac 8pm.
“Rydym yn disgwyl torf enfawr felly byddem yn annog teuluoedd i gyrraedd mor gynnar â phosib er mwyn gallu parcio a mwynhau’r digwyddiad. Mae’n gyfle gwych i bobl yn yr ardal helpu i ddathlu hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas”.

Bydd lleoedd parcio ar gael ar sail y cyntaf i’r felin ym maes pario’r Rec, ar y cae lacrosse, y Ganolfan Ddinesig (dwyrain a gorllewin), Neuadd y Ddinas, Maes Parcio’r Baddonau a Stryd Paxton. Ni ddylai ymwelwyr barcio ar strydoedd ochr neu mewn cilfachau parcio i breswylwyr yn unig oherwydd bydd swyddogion gorfodi yn yr ardal i sicrhau nad yw preswylwyr lleol yn dioddef yn ormodol o anghyfleustra a phroblemau mynediad.
Bydd traffig ar Heol Ystymllwynarth/Heol y Mwmbwls yn cael ei atal am gyfnod byr ar ddiwedd y sioe er mwyn caniatáu i’r nifer mawr o wylwyr groesi’r ffordd yn ddiogel i gyrraedd eu cerbydau. Gan ystyried y nifer mawr o gerbydau sy’n debygol o adael yr ardal ar yr un pryd, disgwylir i’r traffig fod yn drwm ar ddiwedd y digwyddiad.
Bydd dwy ardal dynodedig sy’n cynnig mynediad i bobl anabl a’u teuluoedd; un yn y Ganolfan Ddinesig ac un ger y Senotaff.
Bydd mannau casglu sbwriel ychwanegol ar safle’r digwyddiad a bydd casglwyr sbwriel y cyngor yn clirio’r ardal ar ôl y digwyddiad ac yn gynnar fore trannoeth. Fodd bynnag, gofynnir i wylwyr helpu i gadw’r ardal yn lân ac yn daclus drwy gael gwared ar eu sbwriel yn gyfrifol, a mynd ag unrhyw sbwriel adref gyda nhw yn ddelfrydol.
Oherwydd y nifer mawr o ymwelwyr a ddisgwylir, ni ddylai unrhyw un gynnau tân neu farbeciw ar y traeth, neu ddod â thân gwyllt chwaith.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ymlaen llaw ac ar y noson, ewch i wefan digwyddiadau dynodedig y cyngor – joiobaeabertawe.com
Cyflwynir gan:

Partner Radio:
The Wave & Swansea Sound
Cefnogir gan:
Domino’s Swansea
Sytner BMW Swansea
Swansea Working
NPT College
Network Recruitment Wales