Mewn pryd ar gyfer y Nadolig
O ddydd Mercher 11 Tachwedd, bydd rhestr ddigwyddiadau Joio Bae Abertawe’n symud i adran newydd gwell Digwyddiadau ar wefan Croesobaeabertawe.com!
Os ydych chi wedi gweld gwefan newydd a gwell Croeso Bae Abertawe, byddwch eisoes wedi gweld y gallwch chwilio am ddigwyddiadau yn rhai o leoliadau gorau Abertawe, fel Theatr y Grand Abertawe, a phrynu tocynnau ar eu cyfer.
Bydd y porth digwyddiadau a gwybodaeth i dwristiaid cyfunol newydd yn galluogi cwsmeriaid i gynllunio’u holl ymweliad, a bydd yn argymell gwestai a bwytai yn ogystal â gweithgareddau a digwyddiadau eraill a gynhelir yn yr ardal. Rydym yn hyderus y bydd y wefan newydd yn darparu arweiniad cynhwysfawr i gynllunio diwrnod allan, noson allan neu arhosiad dros benwythnos neu wyliau ym Mae Abertawe!
Yn ogystal â hyn, gallwch ddisgwyl profiad newydd a gwell i ddefnyddwyr ffonau symudol a thabledi.
Cyngor i’r rheini sy’n cyfrannu at y rhestr ddigwyddiadau
Gall y rheini sy’n cyfrannu’n gyson at y rhestr barhau i restru digwyddiadau am ddim. Byddwn yn cyhoeddi’r ffurflen gais ar gyfer rhestru digwyddiad newydd yn y diwrnodau nesaf.