Bydd llyfnffrwythau creaduriaid a heriau chwilod duon ymysg y gweithgareddau llawn hwyl yn Plantasia Abertawe i nodi dychweliad rhaglen boblogaidd ar ITV.
Bydd criw newydd o enwogion yn cael eu herio yn jyngl Awstralia pan fydd cyfres newydd o ‘I’m a Celebrity…Get Me Out of Here!’ yn dychwelyd i’n sgriniau nos Sul.
Felly i ddathlu lansiad y gyfres newydd, mae atyniad coedwig law Abertawe ei hun – Plantasia ym Mharc Tawe – yn rhoi cyfle i ymwelwyr brofi rhai o’r treialon y bydd yr enwogion yn eu hwynebu.
Bydd gwleddoedd ‘Bushtucker’, heriau chwilod duon, tyllau teimlo trybeilig a llyfnffrwythau creaduriaid y goedwig law ar gael.
Cynhelir y gweithgareddau yn Plantasia rhwng 11am ac 1pm ddydd Sadwrn 12 Tachwedd, dydd Sul 13 Tachwedd, dydd Sadwrn 19 Tachwedd, dydd Sul 20 Tachwedd, dydd Sadwrn 26 Tachwedd, dydd Sul 27 Tachwedd, dydd Sadwrn 3 Rhagfyr a dydd Sul 4 Rhagfyr.
Nid oes rhaid cadw lle ymlaen llaw, ond codir taliadau mynediad arferol Plantasia.
Bydd unrhyw un sy’n cwblhau’r pedair her yn cael y cyfle i ennill profiad gofalwr a chael golwg agos ar anifeiliaid Plantasia, yn ogystal â helpu i baratoi bwyd, bwydo’r anifeiliaid a dysgu’r hyn y mae ei angen i fod yn ofalwr anifeiliaid o fri.
Ewch i www.plantasia.org i gael mwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 474555.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English