Efallai fod 2016 wedi bod yn flwyddyn annisgwyl, ond yma ym Mae Abertawe rydym wedi mwynhau rhai eiliadau arbennig. Mae Dinas a Sir Abertawe a Joio Bae Abertawe wedi croesawu rhai o enwau enwocaf cerddoriaeth fyd-eang i Abertawe ynghyd â digwyddiadau cofiadwy eraill. Dyma’n 5 digwyddiad gorau…
Y Manics yn cychwyn haf llawn cerddoriaeth
Perfformiodd The Manic Street Preachers o flaen cynulleidfa enfawr yn Stadiwm Liberty. Roedd 2016 yn nodi 20 mlynedd ers cyhoeddi eu halbwm, “Everything Must Go”, felly daeth y rocwyr Cymreig i berfformio’r albwm cyfan yn ogystal â nifer o ganeuon enwog eraill. Gwnaethant hefyd berfformio’u hanthem Pêl-droed Cymru, “Together Stronger”, yn fyw am y tro cyntaf, gan godi to Stadiwm Liberty a gosod y naws ar gyfer yr EWROS oedd ar ddod.
Roedd Sioe Awyr Genedlaethol Cymru wedi torri pob record
Ym mis Gorffennaf, roedd Bae Abertawe dan ei sang gyda thorfeydd a ddaeth i wylio Sioe Awyr Genedlaethol Cymru. Wedi’i chynnal gan Ddinas a Sir Abertawe, mae’r sioe’n datblygu’n gyflym i fod yn ddigwyddiad awyr agored blynyddol mwyaf Cymru. Sgleiniodd yr haul ar Fae Abertawe am y 2 ddiwrnod, a daeth dros 200,000 o bobl i weld y Red Arrows, y Typhoon Eurofighter, y Bronco Demo Team, a nifer o dimau arddangos eraill sy’n enwog yn fyd-eang.
Daeth Cymru â Phawb Ynghyd yn y Parc
Daeth 10,000 ohonom i Barc Singleton lle buom yn dyst i un o nosweithiau mwyaf Cymru ym maes pêl-droed. Efallai na chyrhaeddodd Cymru’r rownd derfynol, ond bydd awyrgylch y noson hynny’n para’n hir yn y cof, fel y bydd perfformiadau hanesyddol Cymru yn EWRO16.
Noel Gallagher’s High Flying Birds – Mis Medi
Ym mis Medi, daeth un o fandiau enwocaf y byd cerddorol i Barc Singleton. Roedd y gig yn cynnwys cymysgedd o ganeuon enwocaf Noel Gallagher o’r gorffennol a’r presennol, ac roedd yr awyrgylch yn drydanol.
Daeth yr haf i ben gyda Club MTV
Ar ddiwedd mis Medi, daeth Club MTV i Abertawe gan ddod â haf 2016 i ben mewn steil. Bu rhai o actau dawns gorau’r byd megis NERO, SIGMA, Jonas Blue a Proffessor Green yn goleuo awyr Bae Abertawe gyda sioe llwyfan a goleuadau anhygoel. Daeth y noson i ben yn gynnar pan ddechreuodd glaw trwm wneud pethau’n anniogel, ond ni lwyddodd hynny i ddifetha noswaith wych arall yn 2016..
Mae wedi bod yn flwyddyn llawn adloniant gwych yn Abertawe, ac mae mwy i ddod yn 2017!
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English