Canolfannau hamdden Abertawe Actif yw’r lle i fod yr haf hwn. Mae gennym ystod eang o weithgareddau difyr i blant o bob oed eu mwynhau, o gymnasteg a sesiynau bownsio a chwarae, i bêl-rwyd, tenis bach a sglefrolio. Gwnewch sblash gyda sesiynau nofio am ddim, hwyl yn y pwll gydag offer chwyddadwy, waterwalkerz a chyrsiau nofio carlam am wythnos. Hefyd mae gennym lawer mwy ar gael gan gynnwys aml-gamp, gwersylloedd rygbi’r Gweilch a gwersylloedd pêl-droed gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol yr Elyrch.
I gadw lle, ffoniwch y ganolfan o’ch dewis:
- Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt – 01792 235040
- Canolfan Hamdden Cefn Hengoed – 01792 798484 / 797082
- Canolfan Hamdden Treforys – 01792 797082
- Canolfan Hamdden Penlan – 01792 588079
- Canolfan Hamdden Penyrheol – 01792 897039
Cofiwch y gallwch gofrestru ar gyfer Aelodaeth Plant Actif, sy’n caniatáu i bob person ifanc dan 16 oed ddefnyddio unrhyw sesiwn talu a chwarae am £15 y mis yn unig – dim ond £3.75 yr wythnos (mae rhai ohonynt wedi’u cynnwys yn ein gweithgareddau hanner tymor!)
Rhaglen Gwyliau’r Haf Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt
Rhaglen Gwyliau’r Haf Canolfan Hamdden Treforys
Rhaglen Gwyliau’r Haf Canolfan Hamdden Penlan
Rhaglen Gwyliau’r Haf Canolfan Hamdden Penyrheol