Mae eneidiau dewr Abertawe’n cael y cyfle i ddilyn esiampl y pencampwr bocsio, Amir Khan, drwy ymgymryd â threialon fel y mae grŵp newydd o sêr yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn jyngl Awstralia.
Gyda chyfres newydd o ‘I’m a Celebrity, Get Me Out of Here!’ wedi dechrau ar ITV, trefnwyd llyfnffrwythau creaduriaid y goedwig law a heriau chwilod du yn Plantasia, Parc Tawe.
I nodi bod y rhaglen newydd ddechrau eto, mae heriau eraill yn atyniad Cyngor Abertawe’n cynnwys tyllau teimlo brawychus a gwleddoedd ‘Bushtucker’.
Mae’r hwyl ar gael rhwng 11am ac 1pm ddydd Sadwrn 25 Tachwedd, ddydd Sul 26 Tachwedd, ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr, ddydd Sul 4 Rhagfyr, ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr a dydd Sul 10 Rhagfyr.
Nid oes rhaid cadw lle, ond bydd taliadau mynediad arferol Plantasia’n berthnasol.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Dylai’r heriau llawn hwyl a diogel hyn sy’n cael eu harwain gan arbenigwyr fod yn bleser pur i ymwelwyr ifanc â Plantasia, wrth eu haddysgu hefyd am fywyd gwyllt ac ecosystemau’r goedwig law ac wrth gwrs nid yw’r anifeiliaid yn cael unrhyw niwed.
“Er bod y rhaglen ‘I’m a Celebrity’ yn cael ei ffilmio ar ochr arall y byd yn Awstralia, mae Plantasia ym Mharc Tawe’n rhoi cyfle i bobl leol brofi bywyd y jyngl ar garreg ein drws yma yn Abertawe.
“Dyma un o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau niferus a gynhelir drwy gydol y flwyddyn yn Plantasia sy’n rhoi profiad addysgol a llawn hwyl i filoedd o bobl.”
Bydd unrhyw un sy’n cwblhau’r pedair her yn cael cyfle i ennill profiad gofalwr a chael golwg agos ar anifeiliaid Plantasia, yn ogystal â helpu i baratoi bwyd, bwydo’r anifeiliaid a dysgu’r hyn y mae ei angen i fod yn ofalwr anifeiliaid o fri.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/plantasia i gael mwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 474555.