Mae un o lyfrgelloedd prysuraf Abertawe’n dechrau pennod newydd yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol.
Gwariwyd dros £125,000 ar y gwaith i drawsnewid cynllun Llyfrgell Townhill a’i gwneud yn fwy addas i blant a defnyddwyr, gan ddiweddaru cyfarpar a gwella’r amrywiaeth o stoc ar y silffoedd.
Bydd y gwaith a wnaed ar y llyfrgell, sydd yng Nghanolfan y Ffenics ond sydd dan arweiniad Cyngor Abertawe, hefyd yn galluogi i Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol yr Hill ehangu crèche yr adeilad.
Gwnaed y gwaith adnewyddu’n bosib oherwydd grant gan Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae’n wych gweld bod y llyfrgell wedi ailagor ac rwy’n siŵr bydd defnyddwyr gwasanaeth yn falch iawn o’r gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud, gyda nifer ohonynt mewn ymateb i adborth gan gwsmeriaid.
“Roedd y llyfrgell eisoes yn cael ei defnyddio’n aml ac roedd yn wasanaeth a werthfawrogir yn y gymuned, ac rwy’n hyderus y bydd yn mynd o nerth i nerth nawr bod y gwaith wedi cael ei gwblhau.
“Rwy’n falch iawn bod ffocws y gwelliannau wedi bod yn seiliedig ar weithgareddau a digwyddiadau plant ac rwy’n gwybod bod gan dîm y llyfrgell raglen gyffrous o weithgareddau ar gyfer y misoedd nesaf. Bydd y cynllun i ddiweddaru cyfarpar TG ac ail-leoli cyfleusterau cyfrifiadurol hefyd yr un mor bwysig i oedolion.
Mae’r llyfrgell ar ei newydd wedd yn cynnig ardal chwarae fwy i blant gyda Wal Straeon ryngweithiol gyda nodweddion synhwyraidd a chwtsh darllen.
Mae llyfrau a DVDs newydd, silffoedd gwell sy’n cynnig mwy o gyfleoedd arddangos, desgiau TG newydd gyda mynediad am ddim i’r rhyngrwyd a Wi-Fi, a sgrîn deledu gydag arddangosfeydd newyddion a chynnwys lleol.
Yn ystod wythnos hanner tymor sy’n dechrau 19 Chwefror, bydd sioe anifeiliaid ryngweithiol, sesiwn stori a chrefft yn seiliedig ar y thema môr-ladron, cyfle i gwrdd â Cinderella wrth fwynhau straeon tylwyth teg a digwyddiad am fywyd yn ystod oes y Rhufeiniad, gyda gladiatoriaid hyd yn oed! Mae’n hanfodol cadw lle felly galwch heibio’r llyfrgell i gael y rhaglen lawn neu ffoniwch 01792 512370.
Wyddech chi?…
- Ar y cyfrif diwethaf, roedd 6,977 o lyfrau ar gadw yn y llyfrgell. Os caiff y rhain eu gosod o ben i ben, byddent yn mynd o gwmpas cae Stadiwm Liberty bedair gwaith!
- Y llynedd, roedd 32,245 o ymweliadau â’r llyfrgell a benthycwyd 20,820 o eitemau
- Ganed defnyddiwr cofrestredig ieuengaf llyfrgell Townhill ar 19 Medi’r llynedd ac mae’r defnyddiwr hynaf dros 100 mlwydd oed!
Digwyddiadau Hanner Tymor yn Llyfrgell Townhill
*Rhaid cadw lle oherwydd bod lleoedd yn gyfyngedig – 01792 512370*
Rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol a chael eu goruchwylio bob amser
Dydd Llun 19 Chwefror
Cwrdd â’r anifeiliaid yn y Gwyllt | 2.30pm – 3.30pm
Dewch i gwrdd â’r swricatiaid a llawer o’u ffrindiau hyfryd yn y sioe anifeiliaid ryngweithiol a chyffrous hon.
Dydd Mawrth 20 Chwefror
Stori a Chefftau ‘The Pirate-Cruncher’ | 2.30pm – 3.30pm
Stori am fôr-ladron barus, ynys llawn trysor cudd ac anghenfil clyfar iawn, wedi’i dilyn gan grefftau anturus.
Dydd Iau 22 Chwefror
Byw’n hapus byth wedi hynny | 2.30pm – 3.30pm
Mwynhewch straeon a chrefftau yn y llyfrgell a dewch i gwrdd â Cinderella!
Dydd Gwener 23 Chwefror
Sir Teachalot | 2.30pm – 3.30pm
Dewch i gwrdd ag Aquilonius, milwr y Lleng Rufeinig, gwisgwch yn nillad traddodiadol Rhufeinig a dysgwch am fywyd Rhufeinig y Gladiatoriaid.
I gael mwy o wybodaeth am Lyfrgell Townhill a rhaglen ddigwyddiadau gyfredol y llyfrgell o fis Chwefror tan fis Ebrill, ewch i abertawe.gov.uk/LlyfrgellTownhill
Oriau Agor
Llyfrgell Townhill, Canolfan y Ffenics, Parc Paradwys,
Rhodfa Powys, Townhill, Abertawe SA1 6PH
01792 512370 | abertawe.gov.uk/LlyfrgellTownhill