Gall anturwyr ifanc ddod wyneb yn wyneb â phryfed, nadroedd, igwana a tharantwla sy’n bwyta adar yn Abertawe’r wythnos hon.
ynhelir cyfres o sioeau rhyngweithiol addysgiadol o’r enw Parth Anifeiliaid: Antur Coedwig Law yn Plantasia, Parc Tawe, ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau yn ystod wythnos hanner tymor.
Gan gynnig pedair sioe’r dydd am 10.30am, 12pm, 2pm a 3.15pm, bydd pobl ifanc hefyd yn dysgu am bwysigrwydd edrych ar ôl ac amddiffyn coedwigoedd glaw’r byd.
Meddai Maria Bowen, Swyddog Addysg yn Plantasia, atyniad sydd dan arweiniad Cyngor Abertawe, “Mae’r digwyddiadau hyn ymysg y llu o bethau a gynhelir yn Plantasia drwy gydol y flwyddyn wrth i ni geisio croesawu pobl leol ac ymwelwyr â’r ddinas i fywyd planhigion ac anifeiliaid egsotig o bedwar ban y byd.
“Mae’r profiad o ymweld â Plantasia yn llawn hwyl ac yn addysgol, gan roi’r cyfle i bobl ddysgu am goedwigoedd glaw’r byd.”
Oherwydd y galw, mae’n hanfodol archebu tocyn ar gyfer y sioeau ymlaen llaw.
Ewch i www.plantasia.org neu ffoniwch 01792 474555 i gael mwy o wybodaeth ac i archebu tocynnau.