Date/Time:
Date(s) - 25/07/2018 - 29/07/2018
10:00 am - 4:00 pm
Location: Bae Abertawe
Ymunwch â thîm o artistiaid proffesiynol wrth iddynt greu arddangosfa o gerfluniau dros dro sy’n ysbrydoli, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn addysgu ar draethau hardd Abertawe a Gŵyr
Dydd Mercher, 25 Gorffennaf – Traeth Caswell
Dydd Iau, 26 Gorffennaf – Traeth Oxwich
Dydd Gwener, 27 Gorffennaf – Traeth Porth Einon
Dydd Sadwrn, 28 Gorffennaf – Bae Bracelet
Dydd Sul, 29 Gorffennaf – Traeth Blackpill (ger y Lido)
Rhwng 10.00am a 4.00pm
Gweithdy galw heibio AM DDIM ar gyfer pobl o bob oedran
Dysgwch sgiliau a thechnegau celf newydd. Dewch â bwcedi a rhawiau, hetiau ac eli haul!
Er mwyn dathlu thema Croeso Cymru 2018, Blwyddyn y Môr, bydd nodwedd newydd gyffrous yn y digwyddiad eleni – ‘Cerflun ar yr Arfordir’ – sef llwybr arbennig o gerfluniau i arwain y ffordd ar hyd llwybr yr arfordir rhwng y Mwmbwls a Rhosili a fydd yn cysylltu’r holl weithdai traeth.
Caiff pum cerflun eu creu er mwyn dangos y ffordd ar hyd y llwybr a bydd cwis arbennig fel eich bod yn gallu dysgu mwy am ardal hardd Gŵyr a’r darnau celf.
Gweler www.artandeducationbythesea.co.uk am ddiweddariadau am yr ŵyl.
Categories