Gall ymwelwyr ag Abertawe fod yn siŵr o gael diwrnod llawn hwyl, yn ôl teithwyr eraill sydd wedi bod yma.
Mae lledaenu’r gair yn ffordd wych o ddylanwadu ar bobl ac mae sawl un o’r lleoliadau diwylliannol gorau yn y ddinas wedi ennill Tystysgrif Rhagoriaeth nodedig TripAdvisor oherwydd bod pobl wedi gwneud hyn.
Mae’r Dystysgrif Rhagoriaeth, sydd bellach yn ei hwythfed flwyddyn, yn anrhydeddu busnesau lletygarwch sydd wedi ennill adolygiadau gwych ar Tripadvisor, sef gwefan deithio fwyaf y byd.
Y chwe atyniad, y mae Cyngor Abertawe yn berchen arnynt ac yn eu rheoli, sydd wedi ennill y wobr eleni yw: Neuadd Brangwyn, Canolfan Dylan Thomas, Oriel Gelf Glynn Vivian, Theatr y Grand Abertawe, Castell Ystumllwynarth ac Amgueddfa Abertawe.
Meddai’r Cyng. Robert Francis Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae’n wych cael cydnabyddiaeth gan TripAdvisor unwaith eto ar gyfer ein gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
“Mae hyn yn fraint fawr ac yn glod i waith ein timau yn y gwasanaethau diwylliannol sydd wedi ymrwymo i rannu treftadaeth a diwylliant y ddinas, gan ddarparu profiadau arbennig i holl ymwelwyr eu mwynhau.
Adolygiadau’r bobl sydd wedi bod yma yw’r ffordd orau o ddweud pa mor dda yw’r atyniadau sydd ar gynnig yn ein dinas.
“Mae twristiaeth yn werth £417 miliwn y flwyddyn i’n dinas ac mae’n cefnogi mwy na 5,000 o swyddi, felly mae’r gymeradwyaeth hon gan TripAdvisor yn gydnabyddiaeth deg o’r gwasanaeth gwych i gwsmeriaid a ddarperir yn y lleoliadau hyn.”
Cyflwynir y Dystysgrif Rhagoriaeth i oddeutu 10% o’r holl fusnesau ar wefan TripAdvisor sydd wedi derbyn adolygiadau gwych yn gyson dros y flwyddyn ddiwethaf. Nid oes proses ymgeisio, ac enillir y cyflawniad dros amser.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y wobr, dylai busnes wneud y canlynol: sicrhau gradd gyffredinol werth o leiaf bedwar allan o bump ar TripAdvisor gyda chyn lleied o adolygiadau â phosib.
Ychwanegodd y Cyng. Robert Francis Davies, “Mae’n amlwg i fi bod pobl sy’n ymweld â’n lleoliadau’n gwerthfawrogi eu cynnig diwylliannol cyfoethog ac amrywiol ynghyd â’u croeso cynnes, ac mae eu hadolygiadau cadarnhaol ar TripAdvisor yn siŵr o annog mwy o bobl i ymweld â’r ardal ac aros ynddi, gan gyfrannu at les economaidd y ddinas.
I gael mwy o wybodaeth am leoliadau diwylliannol Cyngor Abertawe, ewch i www.abertawe.gov.uk/hamdden