Siop Sgiliau 18 ac 19 Awst | Pabell Fawr ar Ffordd y Dywysoges yn Abertawe
Mae ein Siop Sgiliau yn gyfle i chi ddysgu sgil bwytho newydd mewn gwers ddwy awr gyda thiwtor talentog am ddim. Ni chodir tâl am y wers na’r deunyddiau a bydd y tiwtor yn arwain tri dysgwr drwy’r broses gyfan am ddwy awr. Gallwch gadw lle ar gyfer y sesiynau hyn o tua 8 o’r gloch ar fore dydd Sadwrn 18 Awst.
Eleni, rydym wedi cynnwys tiwtoriaid ar gyfer plant hefyd ac mae 4 cyfres o wersi ar gael mewn dwy sesiwn bob dydd. Ar y ddydd Sadwrn, gall plant dros 7 oed greu anifeiliaid ffelt gyda Helen Gill o’r busnes lleol, All Sewn Up Wales, www.allsewnupwales.co.uk neu greu pâr o siorts pyjamas gyda Nicola Ridd-Davies o The Little Stitchery Sewing Rooms yn Ystradgynlais, https://www.facebook.com/TheLittleSticherySewingRooms/.
Gallwch greu labeli bagiau wedi’u personoli gyda’r artist tecstilau Alison Moger www.mogerdesigns.com neu ddysgu sgiliau newydd er mwyn addurno bag calico mewn steil gyda Vivian Rhule. Ar y dydd Sul, bydd yr holl wersi’r un peth heblaw am y ffaith y bydd Natasha Morgan https://www.etsy.com/uk/shop/NatashaMorgan yn dod i mewn yn hytrach nag Alison Moger. Bydd yr artist doliau lleol Natasha yn helpu’r plant i greu bachau drws gan ddefnyddio pwythi brodwaith traddodiadol.
Ar gyfer yr oedolion, mae gennym amrywiaeth helaeth o hen sgiliau pwytho a rhai newydd. Ddydd Sadwrn 18 Awst a dydd Sul 19 Awst, bydd gennym gyfle i ddysgu gwaith du gan Karen Wise, sy’n aelod hirsefydlog o Carmarthen Creative Stitchers (yn gangen o Urdd y Brodwyr gynt) a Stitching Botanicals. Bydd hi’n dysgu dosbarth sy’n addas i bobl sy’n newydd i’r dechneg gymhleth hon a phwythwyr profiadol sy’n chwilio am her fel ei gilydd. Bydd Karen yn defnyddio gwehyddiad llyfn neu ddefnyddiau safonol ac edau gotwm/sidan gyfrodedd; mae’r deunyddiau’n syml ond bydd cyngor technegol ar y diwrnod yn sicrhau canlyniadau da.
Gyda Penny Williams, bydd cyfranogwyr yn dysgu technegau sylfaenol crychu. Byddant yn dysgu sut i frodio ar ddeunydd cotwm crychog. Darperir y defnydd a’r edeifion brodwaith ynghyd â’r nodwydd briodol. Os bydd digon o amser, gellir gwnïo stribedi ychwanegol o ddefnydd cotwm ar y gwaith wedi’i grychu i greu cas pert i ddyfais. Mae Penny Williams wedi mwynhau creu gwaith crychu ers dros 30 o flynyddoedd ac mae hi hefyd yn wniadwraig brofiadol iawn. Dewch i ymuno â Nia Rhind www.nia-crossstitch.com i fwynhau croesbwytho cyfoes. Mae hi wedi dylunio a phwytho cit matiau diodydd newydd, yn arbennig ar gyfer y digwyddiad, yn seiliedig ar fwynhau paned o de. Bydd y myfyriwr yn derbyn cit llawn a bydd e’n cael ei arwain drwy’r prosiect. Ar ddiwedd y sesiwn, bydd Nia yn dangos i’r myfyrwyr sut i docio’r defnydd a’i roi ar y mat diod gwag i gwblhau’r prosiect.
Carol Bartlett www.sewlovelypenarth.com Bydd gweithdy Carol yn archwilio brodwaith symudiad rhydd er mwyn creu llun ar thema gwnïo traddodiadol. Gall myfyrwyr ddewis cynllun lliwiau o amrywiaeth o ddefnyddiau ac addurnau hyfryd a dysgu sut i addurno defnydd ag appliqué a gwnïo’r llinellau i greu eu lluniau. Graddiodd Carol o’r brifysgol gyda BA (Anrhydedd) mewn Dylunio Tecstilau. Yn 2015, enillodd Sew Lovely wobr cylchgrawn Sew am ‘Y Siop Manion Gwnïo Orau yng Nghymru’ ar ôl i’w ddarllenwyr bleidleisio drosti. Alison Deer “Broetshis Defnydd Bach”– Byddwch yn creu broetshis bach gyda thair neu bedair haen o ddefnydd gan ddefnyddio gwlân neu sidan ffeltiog, wedi’u cau â botwm neu addurniadau eraill. Torrir y defnydd gan ddefnyddio peiriant torri â dei neu gellir ei dorri â llaw gan ddefnyddio templed.
Ychydig o diwtoriaid yn unig fydd gennym ddydd Sadwrn, Roberta Daniel – bydd Roberta yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddysgu’r grefft o wehyddu gleiniau. Mae hi’n bwriadu defnyddio glain “dau-dwll” i ddangos sut y gellir ei addurno gan wehyddu gleiniau o’i gwmpas. Mae Roberta wedi bod yn creu gemwaith ers dros 30 o flynyddoedd. Agorodd ei siop gyntaf ger Llandeilo 25 o flynyddoedd yn ôl ac mae hi bellach yn rheoli Little Gem yn Southgate. Bydd Monica ac Isobelle o Cutting Edge Textiles yn cynnal gweithdy a fydd yn canolbwyntio ar greu cefndir diddorol gan ddefnyddio delweddau wedi’u hargraffu a phwytho â llaw. Bydd gan gyfranogwyr gyfle i ddysgu sut i argraffu ar ddefnydd gyda stensiliau a sgriniau Thermofax gan ddefnyddio paent acrylig a ffabrig. Byddant yn creu defnyddiau â chefndiroedd ar thema’r môr ynghyd â delweddau o brif wrthrych. Gellir gwella’r rhain wedyn gan bwytho â llaw i greu croglen fach. Bydd Natasha Middleton o Sew Swansea www.sewswansea.co.uk yn cynnal gweithdy yn ei harddull unigryw ei hun er mwyn i chi greu broetsh wedi’i phersonoli gan ddefnyddio brodwaith â llaw. Mae gan Natasha ei stiwdio ei hun yn Oriel Elysium, Stryd y Berllan, yng nghanol dinas Abertawe ac mae hi’n cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau yno, o sesiynau unigol i grwpiau a hyd yn oed partïon cyn priodi!
Ddydd Sul, byddwn yn croesawu’r menywod o Swansea Bay Yarns http://www.swanseabayyarns.co.uk/ Bydd Morgan a Helen yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddysgu crosio Tiwnisaidd. Mae hon yn arddull wahanol o grosio a dangosir i fyfyrwyr y technegau sylfaenol fel y byddant yn gallu creu lliain ymolchi neu glwtyn llestri. Bydd Morgan yn darparu defnydd cotwm hyfryd i’w creu; hi yw perchennog Swansea Bay Yarns ac mae hi wedi bod yn ddigon ffodus i droi ei brwdfrydedd dros wau a chrosio yn noddfa i bobl sy’n dwlu ar wlân. Mae’r siop yn ardal breswyl San Helen, yn agos at Neuadd y Ddinas Abertawe.
Tiwtoriaid dydd Sul – dysgwch gan Jo Miller – Bydd Jo yn dangos i fyfyrwyr sut i greu cerdyn gan ddefnyddio clytwaith plygu Japaneaidd. Gellir defnyddio’r bloc fel cerdyn cyfarch neu ei ddefnyddio i wneud bagiau, blychau, llieiniau cul a hyd yn oed cwiltiau. Gellir creu’r clytwaith gan ddefnyddio peiriant neu drwy wnïo â llaw. Mae Jo wedi bod yn gwnïo a gwau ers ei bod yn 4 oed a dechreuodd hi wnïo gyda pheiriant pan oedd hi’n 9 oed. Mae hi wedi rheoli ei busnes crefftau ei hun, gan gyflenwi amrywiaeth o orielau a siopau anrhegion ac mae hi wedi dysgu dosbarthiadau clytwaith ers dros 10 mlynedd. Mae Jane Dorsett wedi bod yn diwtor tecstilau (BA Anrhydedd) TAR ers 20 o flynyddoedd ac mae hi wedi dysgu gweithdai addysg oedolion ac ar ei liwt ei hun yn y DU a Chanada a hi yw cydlynydd Torfaen Textile Artists. Bydd hon yn sesiwn ragflas anffurfiol a fydd yn cyflwyno myfyrwyr i sawl techneg o greu rỳg garpiau. Dewch i ymlacio, cael hwyl a chwarae gydag amrywiaeth o ddefnyddiau a chreu blodyn neu rỳg bach ar ffurf cerdyn post. Darperir yr holl offer a defnyddiau felly dewch â’ch creadigrwydd a’ch brwdfrydedd yn unig! A phrynhawn dydd Sul, bydd Esyllt Jones yn dangos i fyfyrwyr sut i greu defnydd â phapur brown. Dylai digon o samplau gael eu darparu yn y gweithdy ar gyfer cyfranogwyr a bydd Esyllt yn helpu’r myfyrwyr i gwblhau o leiaf un eitem. Mae Esyllt yn aelod sefydlol o Grŵp Tecstilau Itchy Fingers https://www.instagram.com/if_textiles_group/ ac mae hi bellach yn gadeirydd. Mae ganddi ddiploma Cwrs Tecstilau City and Guilds, mae hi’n gadeirydd ar gyfer Cymdeithas Brodwyr Cymru ac yn llefarydd cyfrwng Cymraeg ar gyfer yr Ŵyl.
Dyma benwythnos bendigedig sy’n llawn cyfleoedd pwytho!
Am fwy o wybodaeth am Ŵyl Bwytho Abertawe 2018, gallwch ymweld â’r wefan neu ewch i dudalen Facebook yr ŵyl am y newyddion diweddaraf.