Date/Time:
Date(s) - 01/10/2018 - 03/12/2018
2:00 pm - 4:00 pm
Location: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Bob dydd Llun, 2pm-4pm
Pris £30pp
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Byddwch yn cofrestru ar ddechrau’r dosbarth cyntaf.
Cwrs 10 wythnos yn edrych ar y byd wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf a’i chwyldroadau gwleidyddol a diwylliannol. £30yp.
Cwrs 10 wythnos yn edrych ar y byd wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhrydain, Ewrop, y UDA a’r Undeb Sofietaidd. Daeth diwedd y Rhyfel Mawr â chyfnod o newid a gwewyr mawr yn ei sgîl ym mhedwar ban byd. Daeth diwedd ar deyrnasiad nifer o freniniaethau Ewrop, a newid yn statws a bywydau menywod ar draws y cyfandir ac yn yr UDA.
Hawliodd pobloedd Ewrop gydraddoldeb cymdeithasol. Yn ogystal â chwyldro rhyw a gwleidyddol, gwelwyd newid byd hefyd ym maes llên a chelf, a newidiodd y sinema syniadau a chwaeth y diwylliant poblogaidd. Rhannwyd cymdeithas yn ddwy dros y ddegawd: y sawl oedd am ddychwelyd i’r byd cyn y rhyfel, a’r rhai oedd am adeiladu byd newydd.
Mae’n gwrs mewn awyrgylch cyfeillgar sy’n annog trafodaeth a dadl, heb draethodau na marcio.
Tiwtor – Anthea Symonds
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â rheolwr y cwrs, Colin James, ar 07971 665594. Byddwch yn cofrestru ar ddechrau’r dosbarth cyntaf.
Trefnwyd gan Gangen Abertawe’r Gymdeithas Hanes.
https://amgueddfa.cymru/abertawe/digwyddiadau/10302/Y-1920au-Oes-Jazz-Chwyldro-a-Flappers-/
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English