Bydd enillydd gwobr gyntaf cystadleuaeth fawreddog Canwr y Byd BBC Caerdydd 2019, Andrei Kymach, yn perfformio yn Proms yn y Parc y BBC yn Abertawe eleni.
Bydd y bariton Wcreinaidd yn adlonni cynulleidfaoedd yn y gala cerddorol flynyddol pan fydd yn dychwelyd i Barc Singleton y ddinas nos Sadwrn 14 Medi.
Wedi iddo ennill teitl Canwr y Byd BBC Caerdydd, meddai Andrei, “Rwy’n gyffrous iawn amdano.” Canodd ariâu gan Bizet, Rachmaninoff a Donizetti gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. “Dewisais gerddoriaeth i ddisgrifio’r gwahanol liwiau yn fy llais”, meddai Andrei
Heb os nac oni bai, bydd Andrei’n hapus iawn i ail-greu’r fformiwla arobryn, gan berfformio eto gyda’r gerddorfa yn Proms yn y Parc y BBC yr hydref hwn.
Gallwch chi brofi llais o safon ryngwladol Andrei Kymach drosoch eich hun yn ystod Proms yn y Parc y BBC ym Mharc Singleton Abertawe eleni nos Sadwrn 14 Medi. Tocynnau ar werth nawr.
Graddiodd Andrei o Raglen Artist Ifanc Bolshoi yn 2018, lle bu’n gweithio’n ddwys gyda’i athro Dmitry Vdovin. Yn ystod ei daliadaeth perfformiodd yn ei rôl gyntaf, sef Don Carlos yn The Stone Guest gan Dargomyzhsky yn Theatr Bolshoi.
Bydd tymor 2019/20 yn gweld Andrei yn perfformio fel Belcore (L’elisir d’amore) yn yr Opera Cenedlaethol Norwy, Escamillo (Carmen) yn Opera di Firenze, Erico (Lucia di Lammermoor) yn Ópera de Oviedo, Sadko (The Venetian Guest) yn Theatr Bolshoi, a pherfformiad mewn cyngerdd gyda Cherddorfa Symffoni Dallas.
Mae uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys ei berfformiad gyntaf yn Gran Teatro del Liceu Barcelona yn chwarae rôl Syr Riccardo Forth (I puritani) am y tro cyntaf gyda Javier Camarena a Pretty Yende, ei berfformiad gyntaf yn Auditorio de Tenerife yn canu Lord Enrico Ashton (Lucia di Lammermoor) am y tro gyntaf, chwarae rôl Don Giovanni am y tro gyntaf yn Opera de Nice a Théâtre d’Antibes, yn ogystal â pherfformiad mewn cyngerdd The Demon gan Rubinstein (y brif rôl) yn Neuadd y Frenhines Elizabeth yn Llundain.