Cymraeg i ddod.
1) Taith hyfryd ar y prom: Mae’n dangos eich bod yn ei charu heb dorri’r banc. Ewch draw i brom Abertawe, cerddwch ar hyd glan y môr, arhoswch am hufen iâ, mwynhewch y golygfeydd ar y glannau a gadael eich olion traed yn y tywod.
2) Llwybrau blodeuog: Mae Gerddi Botaneg Singleton yn llawn lliw ac yn hardd yr adeg hon o’r flwyddyn. Yn hytrach na rhoi tusw o flodau, beth am fynd â’ch mam i’r gerddi botaneg am daith gerdded hyfryd fel rhan o’ch diwrnod gyda’ch gilydd?
3) Cinio arbennig: Beth am roi Cinio Arbennig i’ch mam yn y Brangwyn ar Sul y Mamau, gyda pherffomiadau byw gan Peter Karrie, Phantom of the Opera, ynghyd â phryd o fwyd 5 cwrs (gyda sinema, gemau ac ardal Wii am ddim i’r plant).
Os nad yw’r uchod yn mynd â’ch bryd, mae 85 o barciau a mannau gwyrdd yn Abertawe i ddewis ohonynt a pheidiwch ag anghofio i ddarllen ein digwyddiadau ar wefan Joio Bae Abertawe. …
Mwynhau’r Penwythnos
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English