Gallwch fwynhau’r opera glasurol hon am ddim ar Sgrîn Fawr Abertawe nos Fercher 10 Mehefin.
Nos Fercher, caiff ariâu a deuawdau hyfryd a thorcalonnus opera enwog Puccini, La Bohème, eu darlledu ar draws de Cymru yn fyw o Dŷ Opera Brenhinol Llundain a bydd y rhai sy’n dwlu ar gerddoriaeth yn Abertawe yn cael y cyfle i wylio’r perfformiad am ddim ar Sgrîn Fawr y ddinas yn Sgwâr y Castell.
I’r rhai hynny sy’n ochelgar o’r tywydd, gellir prynu tocynnau i’w wylio dan do mewn theatrau penodol hefyd, gan gynnwys Canolfan Celfyddydau Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe, Odeon a Vue.
Mae’r opera wedi’i gosod ym Mharis Fohemaidd y 1830au lle mae’r Ardal Ladin liwgar a bywiog yn cyferbynnu â stori ramant dyner ond drychinebus yn y pen draw. Mae wedi cael ei pherfformio dros 500 o weithiau ar Lwyfan Covent Garden, ac mae’r darllediad byw yn gyfle perffaith i fwynhau’r cynhyrchiad poblogaidd hwn heb deithio i Lundain.
Mae hanes trychinebus y bardd a’r wniadwraig tlawd yn dechrau ar Noswyl Nadolig pan fo’r ddau’n cwrdd, ond caiff eu hapusrwydd ei fygwth pan fydd Rodolfo yn canfod bod Mimì yn ddifrifol wael. Anna Netrebko a Joseph Calleja fydd yn serennu fel Mimì a Rodolfo, y cariadon anffortunus.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English