Gŵyl newydd sbon yw Xstatic yn y Parc a gynhelir ym Mharc Singleton ddydd Sadwrn yma, (25 Gorffennaf) o 11am tan 11pm.
Gyda 7 arena a thros 80 DJ, Xstatic yn y Parc fydd gŵyl gerddoriaeth orau bosib yr haf, ac yn un na fydd selogion cerddoriaeth ddawns am ei cholli.
Dyma flas ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl o’r rhestr anhygoel o berfformwyr:
Arena 1 The Warehouse yn Cyflwyno Llwyfan Awyr Agored Xitp: Eddie Halliwell | Arno Cost | Tim Mason | System Sain fyw gan Harrison
Arena 2 – Toolroom: Mark Knight a’i ffrindiau
Arena 3 – Trancecoda & Delusion: Alex M.O.R.P.H | Andy Moor | Lange
Arena 4 – Dirtbox: Tidy Boys (y perfformiad olaf erioed yng Nghymru) | Lab 4 Live | Juice B2B Frisky & MC Shocker
A llawer, llawer mwy! Edrychwch ar y fideo hwn i weld y rhestr lawn o berfformwyr:
Bydd digon o fwyd a diod ar gael drwy gydol y dydd – bydd hyd yn oed tîm proffesiynol o Gymysgwyr wrth law i gymysgu’ch holl goctêls.
Gellir prynu diodydd a nwyddau gyda thocynnau’n unig (ar gael ar y safle), gellir prynu bwyd gydag arian parod (bydd modd cael arian o’r pwynt prynu tocynnau). Tocynnau’n dechrau o £24.99 yn unig.
Mae manylion llawn y digwyddiad ar gael ar ein tudalen ddigwyddiadau neu ar wefan swyddogol Xstatic yn y Parc.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English