Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth Abertawe Actif!
Mae dechrau blwyddyn newydd yn dod â meddyliau cyffrous o fod yn fwy heini ac iach.
Os ydych am gyrraedd eich nod yn 2016, does dim edrych ymhellach – mae gennym ddigon i’ch cadw’n actif!
- Ydych chi am deimlo’n well?
- Bod â mwy o egni?
- Dysgu sut i nofio?
- Rhedeg ras 10k?
Yn Abertawe Actif, bydd ein tîm o staff cefnogi brwdfrydig yn eich annog a’ch ysgogi, beth bynnag yw eich nod.
5 Canolfan Hamdden
Gyda 5 canolfan mewn lleoliadau cyfleus ar draws Abertawe, rydych yn sicr o fod yn agos at gyfleusterau Abertawe Actif.
Mae cyfarpar o’r radd flaenaf, ystafelloedd pwysau rhydd, pyllau nofio a chwaraeon raced i chi eu mwynhau, ynghyd â thros 120 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos.
Rydym yn eich sicrhau y bydd cyfleusterau a gweithgareddau gwych i gadw’r teulu cyfan yn actif.
Tocyn 3 Diwrnod AM DDIM
Ydych chi am roi cynnig ar y cyfleusterau? I gychwyn tuag at eich nodau blwyddyn newydd, rydym yn cynnig Tocyn 3 Diwrnod AM DDIM i gwsmeriaid newydd i’w ddefnyddio ym mis Ionawr 2016!
Y gampfa, nofio, dosbarth ffitrwydd, chwaraeon raced – gallwch ddefnyddio unrhyw gyfleuster mewn unrhyw ganolfan hamdden Abertawe Actif am 3 diwrnod yn olynol!
Ewch i www.abertaweactif.com am fwy o wybodaeth, yr amodau a’r telerau ac i lawrlwytho eich taleb.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English