Noson mas fawr i deuluoedd a selogion ffilm yn Abertawe
Mae selogion ffilm Abertawe’n cael eu gwahodd i un o ddigwyddiadau ffilm y flwyddyn yn y ddinas
Caiff sioe gerdd The Greatest Showman gyda Hugh Jackman ei dangos ar sgrîn fawr Sgwâr y Castell am ddwy noson y mis nesaf (sylwer: mis Hydref).
Bydd perfformiadau syrcas ar y stryd yn rhan o ddigwyddiad mynediad am ddim Cyngor Abertawe – a bwyd stryd i’w brynu.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Bydd hyn yn brofiad sinema awyr agored i ymgolli’n llwyr ynddo – ac yn llawer o hwyl i’r teulu cyfan.”
Caiff The Greatest Showman ei dangos am ddim ar sgrîn fawr Sgwâr y Castell ar 5 Hydref, a chynhelir gweithgareddau o 4pm i 8pm. Mae’n adrodd hanes PT Barnum (Jackman) a’i fywyd fel entrepreneur syrcas ac amgueddfa. Ymhlith y sêr mae Michelle Williams a Zac Efron.
Bydd y sioe yn rhan o Ŵyl Ymylol Abertawe, dathliad o gerddoriaeth, barddoniaeth, ffilm, comedi, digwyddiadau i’r teulu a mwy.
Meddai Joe Bayliss, o’r Ŵyl Ymylol, “Rydym yn hapus iawn i ddatblygu’r Ŵyl Ymylol gyda chefnogaeth BID a churadwyr digwyddiadau gwadd megis Cyngor Abertawe.”
Rhagor o wybodaeth