Mae cynifer o weithgareddau i’w mwynhau yn Abertawe eleni ac mae nawr yn adeg wych i fynd i’r gampfa! Efallai’ch bod yn meddwl beth yn union sydd ar gael. Wel, mae Ioga Egnïol, Tabata, Pwysau Tegell, TRX a Synrgy a dim ond ychydig yw hynny. Roedden ni’n meddwl y byddech chi efallai’n gwerthfawrogi ffeithiau ffitrwydd am y dosbarthiadau llai hysbys mae Abertawe Actif yn eu cynnig yn y pedair canolfan hamdden ar draws Abertawe. Ac i gael rhagor o fanylion am ddosbarthiadau, ewch i wefan Abertawe Actif.
Bocsymarfer
Mae bocsymarfer yn seiliedig ar y cysyniadau hyfforddi mae paffwyr yn eu defnyddio i gadw’n heini. Cynhelir dosbarthiadau mewn amrywiaeth o fformatiau, ond gallai un nodweddiadol gynnwys cysgod-baffio, sgipio, taro padiau, cicio bagiau pwno, ymwthiadau, rhediadau gwennol ac ymeisteddiadau. Nid yw pobl yn cael eu taro’n gorfforol; mae’n ddifyr, yn heriol ac yn ddiogel.
Beicio mewn Grŵp
Mae beicio mewn grŵp dan do (clyd yn y gaeaf), rydych chi’n aros yn yr unfan ac yn y sesiynau gallwch addasu lefelau gwrthiant y beic i feicio ar gyflymder a dwysedd amrywiol. Y nod yw codi cyfradd curiad y galon a ffyrfhau rhannau isaf eich corff. Gwych ar gyfer ffyrfhau’r coesau!
Insanity
Mae Insanity’n rhaglen cyflyru’r corff cyfan sy’n seiliedig ar gardio, ar ffurf uchafswm hyfforddiant ysbeidiau’. Mae dosbarthiadau Insanity’n targedu’r corff cyfan, gan ddechrau gydag ‘ymarfer cynhesu cyflym’ a symud ymlaen i dri bloc o ymarfer corff dwys, a phob un yn targedu elfen wahanol o ffitrwydd. Mae elfennau plyometrig a gwydnwch – yn y bôn ‘hyfforddiant neidio’ lle mae cyhyrau’n rhoi uchafswm grym mewn cyfnod cyn fyrred ag y bo modd. Wedyn mae cryfder a chydbwysedd a’r ffocws terfynol yw ystwythder a chydsymud.
Pwysau Tegell
Pwysau tegell yw ‘pelenni magnel â dolen’ i ffyrfhau a chryfhau cyhyrau. Mae’r dosbarth Pwysau Tegell yn eich galluogi i ymgymryd â chyfres o ymarferion i ffyrfhau a chryfhau rhannau uchaf ac isaf y corff.
Power Hoop
Mae Power Hoop yn defnyddio cylch â phwysau, gan roi elfen newydd ychwanegol i ‘arf ffitrwydd hen ffasiwn’. Mae’r arwyneb mewnol â phwysau’n gweithredu i ffyrfhau’r canol, cryfhau cyhyrau yn eich abdomen a rhannau isaf eich corff a ffyrfhau cyhyrau yn eich stumog, eich cyhyrau ffolen, eich cluniau a’ch morddwydydd. Hefyd, gellir defnyddio’r cylch ar gyfer ffyrfhau rhannau uchaf y corff.
Ioga Egnïol
Dywedir bod Ioga Egnïol yn ‘sesiwn ymarfer corff egnïol sy’n canolbwyntio ar safleoedd cryfhau’. Mae’r cyfan yn ymwneud â symud yn gyflym, magu cryfder a bywiogi. Rydych yn ‘codi ac yn cynnal pwysau’ch corff cyfan’ yn aml – gwych ar gyfer magu cryfder a ffyrfhau’r breichiau!
Adlamu
Dosbarth ffitrwydd yw adlamu lle byddwch yn ‘gwneud cyfres o symudiadau wrth neidio ar drampolîn bach’. Yn wahanol i drampolinio arferol, nid neidio’n uchel neu wneud castiau gymnasteg yw’r nod, ond gwneud cyfres o symudiadau bach, wedi’u rheoli i losgi calorïau a ffyrfhau’ch corff.
Synrgy
Wedi’i ddisgrifio fel ‘gwasanaeth ar gyfer y system nerfau gyfan’, mae hyfforddiant Synrgy ar gael trwy ddefnyddio cyfleusterau Synrgy yng nghanolfannau hamdden Penyrheol a Phenlan.
Tabata
Dywedir bod Tabata, hyfforddiant ysbeidiau dwysedd uchel, yn amlbwrpas iawn. Mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer colli pwysau a gwella perfformiad mewn chwaraeon aerobig ac anaerobig. Enghraifft o gyfres ysbeidiau yw gwneud gweithgaredd am 20 eiliad, gorffwys am 10 eiliad a’i ail-wneud 7 neu 8 gwaith. Y syniad yw cynyddu cyflymder y galon i’r eithaf am hyrddiau byr ac mae’n cynnig manteision gwych o ran cardio a chyhyrau.
TRX
Mae TRX yn ‘ymwneud â lifro disgyrchiant’ ac yn cael ei ddisgrifio fel hyfforddiant crog. Byddwch yn defnyddio pwysau’ch corff yn ystod ymarferion i ddatblygu cryfder, cydbwysedd, hyblygrwydd a sefydlogrwydd craidd a’r cyfan i gyd gyda’i gilydd. Dywedir bod 100oedd o ymarferion gwahanol.
Gweler rhagor o fanylion am ddosbarthiadau yn Abertawe Actif.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English